{"id":34105,"date":"2025-07-14T12:27:38","date_gmt":"2025-07-14T11:27:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=34105"},"modified":"2025-07-14T12:28:55","modified_gmt":"2025-07-14T11:28:55","slug":"cyngor-sir-fynwy-yn-derbyn-grantiau-ar-gyfer-prosiect-neuadd-sirol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/cyngor-sir-fynwy-yn-derbyn-grantiau-ar-gyfer-prosiect-neuadd-sirol\/","title":{"rendered":"Cyngor Sir Fynwy yn derbyn grantiau ar gyfer Prosiect Neuadd Sirol"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy wrth ei fodd yn cyhoeddi ei fod wedi derbyn grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi\u2019r Prosiect Neuadd Sirol a fydd yn drawsnewidiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y grant hwn yn galluogi\u2019r Cyngor i wella\u2019r Neuadd Sirol, sydd wedi\u2019i lleoli yng nghanol hanesyddol Trefynwy, yn gyrchfan hygyrch a bywiog i\u2019r gymuned leol ac ymwelwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Nod prosiect y Neuadd Sirol yw creu lle y mae modd i bobl ddarganfod, dathlu a rhannu straeon amrywiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y prosiect yn cynnwys datblygu orielau newydd, gosod system wresogi fodern, a chreu mannau amlbwrpas i gefnogi cynhyrchu incwm. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr adeilad rhestredig Gradd I ac yn cynyddu ei effeithlonrwydd amgylcheddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar gyfranogiad cymunedol a gwirfoddoli, gydag ystod o weithgareddau a digwyddiadau wedi\u2019u cynllunio i ymgysylltu \u00e2 chynulleidfa ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch: \u201cBydd grant y Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chronfeydd lleol yn ein galluogi i drawsnewid Neuadd Sirol yn amgueddfa arbennig, gan arddangos casgliad Nelson, hanes Trefynwy a llawer o straeon pwysig arall mewn ffyrdd hygyrch a deniadol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phobl Trefynwy a Chyngor Tref Trefynwy i wireddu\u2019r weledigaeth hon.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: \u201cRydym yn gwybod y gall treftadaeth chwarae rhan enfawr wrth ddod \u00e2 phobl ynghyd a chreu ymdeimlad o falchder yn nhrefi a dinasoedd pobl, ac yn ei dro hybu\u2019r economi leol. Dyna pam rydym wrth ein bodd yn dyfarnu \u00a31.5 miliwn i drawsnewid Neuadd Sirol hanesyddol Trefynwy yn amgueddfa gymunedol ysbrydoledig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y cyllid hanfodol hwn yn cadw casgliadau o bwys rhyngwladol wrth greu canolfan ddiwylliannol hygyrch lle gall cenedlaethau\u2019r dyfodol fwynhau\u2019r dreftadaeth bwysig hon am flynyddoedd lawer i ddod.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gwelliannau i\u2019r Neuadd Sirol yn ei gwneud yn lle y mae modd i bobl ddod i fwynhau treftadaeth, a bydd y cyfleusterau newydd yn darparu amodau gwell ar gyfer y casgliadau o bwys rhyngwladol a gedwir ynddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cyngor hefyd wedi derbyn cyllid grant gan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect y Neuadd Sirol. Am ragor o wybodaeth am brosiect y Neuadd Sirol, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/the-shire-hall\/\">https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/the-shire-hall\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/07\/Heritage-Fund-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/07\/Heritage-Fund-300x200.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-209374\"\/><\/a><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cyngor Sir Fynwy wrth ei fodd yn cyhoeddi ei fod wedi derbyn grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi\u2019r Prosiect Neuadd Sirol a fydd yn drawsnewidiol. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":34107,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-34105","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/34105","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=34105"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/34105\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/34107"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=34105"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=34105"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=34105"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}