{"id":33987,"date":"2025-07-02T15:21:41","date_gmt":"2025-07-02T14:21:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=33987"},"modified":"2025-07-02T15:29:48","modified_gmt":"2025-07-02T14:29:48","slug":"oriel-newydd-yn-agor-i-ddathlu-cymunedau-amrywiol-yng-nghas-gwent","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/oriel-newydd-yn-agor-i-ddathlu-cymunedau-amrywiol-yng-nghas-gwent\/","title":{"rendered":"Oriel newydd yn agor i ddathlu cymunedau amrywiol yng Nghas-gwent"},"content":{"rendered":"\n<p>Croesawodd Amgueddfa Cas-gwent weinidogion o Lywodraeth Cymru ac aelodau o gabinet Sir Fynwy yr wythnos ddiwethaf fel rhan o agor oriel newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Newid yn Wyneb Cas-gwent yn oriel newydd, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o\u2019u rhaglen Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/06\/IMG_2875-scaled.jpeg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/06\/IMG_2875-1024x576.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-208471\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r oriel yn edrych ar bobl Cas-gwent o safbwynt newydd, gan sylweddoli y bu bob amser yn gartref i bobl sydd wedi hanu o leoedd eraill \u2013 bydded hynny\u2019n oresgynwyr \u2013 Rhufeiniaid a Normaniaid, pobl yn edrych am waith \u2013 labrwyr o Iwerddon neu weithwyr gwifr o\u2019r Almaen neu ein cymuned Wcr\u00e1in yn edrych am le diogel i\u2019w alw\u2019n gartref.<\/p>\n\n\n\n<p>Nod yr ymgyrch yw dangos sut mae grwpiau amrywiol wedi cyfrannu at yr hyn yw Cas-gwent heddiw.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/06\/IMG_2854-scaled.jpeg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/06\/IMG_2854-1024x576.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-208470\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Cyflwynodd aelodau gymuned Wcr\u00e1in Cas-gwent ddwy ddol ffabrig wedi\u2019u gwneud \u00e2 llaw i\u2019r amgueddfe fel arwydd o gyfeillgarwch Cymru ac Wcr\u00e1in. Yn bresennol yn y digwyddiad blaenolwg oedd Jack Sergeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a Jane Hutt, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a Phrif Chwip.<\/p>\n\n\n\n<p>Yno gyda\u2019r gweinidogion roedd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy y Cyng Mary Ann Brocklesby, yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu y Cyng Angela Sandles a\u2019r Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth y Cyng Sara Burch.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/06\/IMG_2848-scaled.jpeg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2025\/06\/IMG_2848-1024x576.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-208469\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Cafodd y sawl oedd yn mynychu gyfle i weld yr oriel a chwrdd ag aelodau o\u2019r gymuned oedd wedi helpu ar y prosiect.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r oriel yn rhan o brosiect llawer ehangach yn cynnwys Amgueddfeydd Cas-gwent a\u2019r Fenni.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cyng Burch: \u201cRwy\u2019n annog pawb a all wneud hynny i ymweld ag arddangosfa Newid yn Wyneb yng Nghas-gwent.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n ychwanegiad gwych i\u2019r amgueddfa a stori Sir Fynwy yn ei chyfanrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n ddiolchgar am y cyfle i edrych o gwmpas.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai\u2019r Cyng Sandles: \u201cRoedd yn wych ymweld ag Amgueddfa Cas-gwent i weld oriel newydd Newid yn Wyneb.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n dangos sut y cafodd Sir Fynwy fel y mae heddiw ei siapio gan bobl o bob rhan o\u2019r byd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDylem ddathlu\u2019r ffaith honno a\u2019r ffaith fod ein cymuned amrywiol yn ein gwneud yn gryfach.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd digwyddiad arall y noswaith ganlynol, pan agorwyd yr oriel yn swyddogol gan y Cyng Peter Strong, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Mynychodd pobl sy\u2019n ymwneud \u00e2 phob maes o greu\u2019r oriel y digwyddiad, gan roi cyfle i aelodau gwahanol grwpiau cymunedol ac arbenigwyr ddod ynghyd i ddathlu eu llwyddiant.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Croesawodd Amgueddfa Cas-gwent weinidogion o Lywodraeth Cymru ac aelodau o gabinet Sir Fynwy yr wythnos ddiwethaf fel rhan o agor oriel newydd. Mae Newid yn Wyneb Cas-gwent yn oriel newydd, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":33985,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-33987","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/33987","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=33987"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/33987\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/33985"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=33987"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=33987"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=33987"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}