{"id":33185,"date":"2025-04-01T13:19:33","date_gmt":"2025-04-01T12:19:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=33185"},"modified":"2025-04-01T13:20:27","modified_gmt":"2025-04-01T12:20:27","slug":"gwaith-torri-coed-wedii-atal-yng-nghomin-y-felin-magwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/gwaith-torri-coed-wedii-atal-yng-nghomin-y-felin-magwyr\/","title":{"rendered":"Gwaith torri coed wedi\u2019i atal yng Nghomin y Felin, Magwyr"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019r gwaith o dorri coed yn fecanyddol ar Gomin y Felin ym Magwyr fel rhan o\u2019r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) wedi\u2019i atal oherwydd bod y Gwanwyn yn mynd rhagddo a nifer o nythod adar wedi eu canfod yn yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ecolegwyr wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda chontractwyr drwy gydol y gwaith coed i darfu cyn lleied \u00e2 phosibl ar fywyd gwyllt lleol. Ar \u00f4l darganfod y nythod, penderfynwyd atal y gwaith a chwblhau unrhyw waith torri sydd ar \u00f4l yn yr Hydref.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gwaith i adfer y coetir na fydd yn tarfu ar adar sy\u2019n nythu yn parhau, gan gynnwys gwrychoedd marw, cael gwared \u00e2 malurion, a malu bonion ar hyd ymylon y llwybr lle mae\u2019r gwaith cwympo eisoes wedi\u2019i gwblhau.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes disgwyl i\u2019r newid hwn effeithio ar rannau eraill o\u2019r prosiect ehangach. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gallu cychwyn prosiectau gwirfoddoli, gan gynnig cyfleoedd i\u2019r gymuned helpu i adfywio Comin y Felin.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i adfer y llwybrau er mwyn sicrhau y gellir gwneud gwaith ar draws yr holl ardaloedd lle mae\u2019r gwaith o dorri\u2019r coed wedi ei gwblhau. Bydd rhan olaf y llwybr yn cael ei orffen yn yr Hydref\/Gaeaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwerthfawrogwn amynedd trigolion a\u2019u cydweithrediad \u00e2\u2019r contractwyr drwy gydol y gwaith coed a deallwn y bu tarfu ar fynediad ar y safle.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd yn cydnabod y newidiadau i\u2019r coed o ganlyniad i\u2019r gwaith, sy\u2019n amlygu maint y coed ynn yr effeithiwyd arnynt gan glefyd (Chalara) coed ynn ar Gomin y Felin. Bydd coed brodorol yn cael eu hailblannu yn yr Hydref\/Gaeaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y cyfamser, bydd y coedydd yn dechrau aildyfu\u2019n naturiol o lasbrennau a hadau sydd eisoes yn bresennol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a\u2019r Amgylchedd: \u201cEr ein bod yn siomedig y bydd rhywfaint o\u2019r gwaith yn cael ei ohirio tan yr hydref, rydym yn cymryd ein dyletswyddau i ddiogelu adar sy\u2019n nythu o ddifrif ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect adfer coetir wedi\u2019i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.\u201d I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru diddordeb mewn gwirfoddoli, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.monlife.co.uk%2Foutdoor%2Fgreen-infrastructure%2Fmill-common-restoration-project%2F&amp;data=05%7C02%7CDanBarnes%40monmouthshire.gov.uk%7Cffcb3366cc4c4fa5281208dd710ae4c4%7C2c4d0079c52c4bb3b3cad8eaf1b6b7d5%7C0%7C0%7C638791013786203891%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=d2D0gOaDL2POUX6VXN22u%2BGlnh3xCttDLL22pTsJVDA%3D&amp;reserved=0\">prosiect Adfer Comin y Felin \u2013 Monlife<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r gwaith o dorri coed yn fecanyddol ar Gomin y Felin ym Magwyr fel rhan o\u2019r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) wedi\u2019i atal oherwydd bod y Gwanwyn yn mynd rhagddo [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":33183,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-33185","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/33185","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=33185"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/33185\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/33183"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=33185"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=33185"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=33185"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}