{"id":29654,"date":"2024-08-01T13:17:02","date_gmt":"2024-08-01T12:17:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=29654"},"modified":"2024-08-01T13:19:02","modified_gmt":"2024-08-01T12:19:02","slug":"dweud-eich-dweud-ar-arddangosfa-amgueddfar-neuadd-sirol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/dweud-eich-dweud-ar-arddangosfa-amgueddfar-neuadd-sirol\/","title":{"rendered":"Dweud eich dweud ar arddangosfa Amgueddfa\u2019r Neuadd Sirol"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"478\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-29644\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/image.png 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/image-300x140.png 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/image-768x359.png 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Bellach gall trigolion ac ymwelwyr ddweud eu dweud ar ba arddangosfeydd y maent am eu gweld yn Amgueddfa\u2019r Neuadd Sirol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Treftadaeth MonLife yn y broses o symud Amgueddfa Trefynwy i\u2019r Neuadd Sirol ac yn chwilio am ba gasgliadau yr hoffai trigolion ac ymwelwyr eu gweld yn cael eu harddangos.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019r 1af Awst 2024, bydd arolwg ar-lein ar gael i gasglu adborth ar them\u00e2u a gweithgareddau a fyddai\u2019n denu ymwelwyr i\u2019r amgueddfa. P\u2019un ai ydych wedi ymweld o\u2019r blaen neu heb ymweld erioed, rydym am greu amgueddfa sy\u2019n llawn hanes a gweithgareddau i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y Neuadd Sirol yn amgueddfa fodern a deniadol yn seiliedig ar sgyrsiau cymunedol i sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn gynrychioliadol i\u2019n holl ymwelwyr. Bydd yn dod \u00e2 straeon lleol yn fyw, yn ogystal \u00e2 digwyddiadau a gweithgareddau y mae pawb eisiau eu gweld a chymryd rhan ynddynt.<\/p>\n\n\n\n<p>I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/the-shire-hall\/shire-hall-consultation\/\">https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/the-shire-hall\/shire-hall-consultation\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect ailddatblygu wedi\u2019i ariannu gan Gyngor Sir Fynwy a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn yr adborth, bydd ein t\u00eem prosiect yn gweithio gyda phenseiri a thimau dylunio amgueddfeydd i ddatblygu cynlluniau i greu amgueddfa newydd yn y Neuadd Sirol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: \u201cRydym yn gweithio i greu gofod modern i ymwelwyr ddysgu mwy am hanes lleol helaeth Trefynwy a\u2019r ardaloedd cyfagos. Mae\u2019r amgueddfa hon i bawb, a\u2019r arolwg yn gadael i chi ddweud wrthym beth yr ydych am ei weld.<\/p>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd y Neuadd Sirol ym 1724, ac mae\u2019n adeilad rhestredig Gradd 1, a chyn hynny roedd yn lleoliad y Brawdlysoedd a\u2019r Sesiynau Chwarter ar gyfer Sir Fynwy. Mae\u2019n fwyaf enwog am brawf 1839\/40 yr arweinydd Siartaidd John Frost ac eraill am uchel frad yn ystod Gwrthryfel Casnewydd. Beth am ymweld heddiw &nbsp;i weld yr ystafelloedd llys a\u2019r celloedd sydd wedi bod yn hollbwysig i hanes Trefynwy?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Amgueddfa\u2019r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy ar agor rhwng 11.00am a 4:00pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn (gall oriau agor amrywio adeg gwyliau). Mae mynediad AM DDIM.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bellach gall trigolion ac ymwelwyr ddweud eu dweud ar ba arddangosfeydd y maent am eu gweld yn Amgueddfa\u2019r Neuadd Sirol. Mae Treftadaeth MonLife yn y broses o symud Amgueddfa Trefynwy [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":29655,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-29654","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29654","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29654"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29654\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/29655"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29654"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=29654"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=29654"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}