{"id":28156,"date":"2024-04-23T15:43:40","date_gmt":"2024-04-23T14:43:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=28156"},"modified":"2024-04-23T15:47:38","modified_gmt":"2024-04-23T14:47:38","slug":"cyngor-sir-fynwy-yn-dathlu-celfyddydau-creadigol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/cyngor-sir-fynwy-yn-dathlu-celfyddydau-creadigol\/","title":{"rendered":"Cyngor Sir Fynwy yn dathlu celfyddydau creadigol"},"content":{"rendered":"\n<p>Bu artistiaid o Sir Fynwy a\u2019r cyffiniau yn cymryd rhan yn y Dathliad o\u2019r Celfyddydau cyntaf erioed yn y Sir yr wythnos diwethaf (dydd Gwener, 19eg Ebrill) o dan arweiniad y Cyngor.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i ysbrydoli gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, bydd y digwyddiad yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, gan arddangos sut mae artistiaid, perfformwyr, cerddorion ac eraill yn cyfrannu at ddiwylliant ac economi bywiog Sir Fynwy.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/Arts-0001-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/Arts-0001-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-185867\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Arweinydd y Cyngor, Cyng Mary Ann Brocklesby yn croeso gwesteion<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn ei sylwadau agoriadol, dywedodd y Cynghorydd Brocklesby: \u201cMae hwn yn garreg gamu yn ein hymrwymiad i greu strategaeth ddiwylliannol newydd a fydd yn eiddo i bawb ac yn darparu canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, cefnogaeth a chynhwysiant ar draws ein holl gymunedau.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y diwrnod yn fan cychwyn i\u2019r prosiect a gydlynwyd gan y Cyngor, sy\u2019n tanlinellu bod yr ardal yn lle ysbrydoledig i artistiaid creadigol o bob math i fyw a gweithio ynddo. Mae tirweddau, golygfeydd, fflora a ffawna lleol yn ysbrydoli artistiaid o bob math, sydd yn ei dro yn atgyfnerthu diwylliant y sir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gydag artistiaid o bob rhan o\u2019r Sir, gan ddarparu mynediad at gyllid a lleoliadau i arddangos eu gwaith. Dros y misoedd diwethaf, mae\u2019r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag artistiaid lleol fel rhan o raglen \u2018Clwstwr Creadigol\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n cydnabod bod yr ardal eisoes yn gyforiog o artistiaid creadigol a gweledol, gan gynnwys crefftau coed, gwneud gemwaith, ffotograffwyr, peintwyr, cerflunwyr, ceramegwyr, cerddorion, dawns a theatr, llenorion a beirdd, artistiaid tecstiliau ac mwy. Mae\u2019r rhestr bron yn ddiddiwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>P\u2019un a yw pobl wedi byw mewn ardal ers oes neu\u2019n ymwelwyr, mae ymwneud \u00e2\u2019r celfyddydau ac artistiaid yn rhoi persbectif newydd ar gymunedau, lle a\u2019u hanes.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r diwydiant creadigol yn cyfrannu \u00a384.1 biliwn i economi\u2019r DU ac mae artistiaid creadigol Sir Fynwy yn chwarae rhan hanfodol yn lleol ac yn genedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y digwyddiad, pwysleisiodd Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol yr Athro Sara Pepper fod bron i ddeg y cant o swyddi\u2019r genedl yn yr economi greadigol.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd gwaith gan yr artistiaid lleol Patricia Statham Maginness, Gemma Williams, Mike Erskine a Tiffany Murray yn cael ei arddangos am y tro cyntaf, a gosododd eraill stondinau i arddangos eu gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cyngor yn gwella ei strategaeth ddiwylliannol ymhellach fel rhan o ymrwymiadau\u2019r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn dysgu mwy am waith y Cyngor, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/\">https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/Arts-0002-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/Arts-0002-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-185874\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol yr Athro Sara Pepper<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Arts-0008-1536x1024-1-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-28157\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Arts-0008-1536x1024-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Arts-0008-1536x1024-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Arts-0008-1536x1024-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/Arts-0008-1536x1024-1.jpg 1536w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Dance Blast yn diddanu\u2019r dorf gyda Syrcas Awyr<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/Arts-0011-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/Arts-0011-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-185871\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Barcud Coch gan Gemma Williams<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/P1030466-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/P1030466-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-185881\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Patricia Statham Maginness (chwith) yn sgwrsio gyda gwestai<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/P1030106-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/04\/P1030106-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-185884\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Croeso cynnes yn cyfarch gwesteion i Neuadd y Sir<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu artistiaid o Sir Fynwy a\u2019r cyffiniau yn cymryd rhan yn y Dathliad o\u2019r Celfyddydau cyntaf erioed yn y Sir yr wythnos diwethaf (dydd Gwener, 19eg Ebrill) o dan arweiniad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":28154,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-28156","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/28156","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=28156"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/28156\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/28154"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=28156"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=28156"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=28156"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}