{"id":27484,"date":"2024-03-08T15:56:15","date_gmt":"2024-03-08T15:56:15","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=27484"},"modified":"2024-03-08T16:02:55","modified_gmt":"2024-03-08T16:02:55","slug":"cyngor-sir-fynwy-yn-cynnal-cynhadledd-yr-academi-arweinyddiaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/cyngor-sir-fynwy-yn-cynnal-cynhadledd-yr-academi-arweinyddiaeth\/","title":{"rendered":"Cyngor Sir Fynwy yn cynnal Cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth"},"content":{"rendered":"\n<p>Mynychodd 60 o ddisgyblion o Gynllun Academi Arweinyddiaeth Cyngor Sir Fynwy Gynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ar ddydd Gwener, 8fed Mawrth.<\/p>\n\n\n\n<p>Derbyniodd y llysgenhadon ifanc, a ddaeth o\u2019r pedair ysgol uwchradd yn y sir, hyfforddiant arweinyddiaeth a sgyrsiau ysbrydoledig i\u2019w helpu gyda\u2019u gwaith gwirfoddoli yn eu hysgolion a\u2019u cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Buont yn cymryd rhan mewn gweithdai i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a chawsant gyfle i rwydweithio \u00e2 llysgenhadon eraill a dysgu oddi wrth ei gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliodd partneriaid amrywiol o\u2019r sector weithdai, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, a gyflwynodd weithdy ar \u2018R\u00f4l yr Arweinydd Ifanc\u2019 \u2013 gyda Gemau Stryd yn cyflwyno sesiwn ar \u2018Llais Ieuenctid ac Ymgynghori\u2019. Nod y rhain oedd ymrymuso\u2019r llysgenhadon ifanc i weithio\u2019n agos gyda\u2019u cyfoedion a helpu i lunio rhaglenni gweithgareddau corfforol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhannodd Amber Stamp Dunstan o MonLife ei phrofiad o ymuno \u00e2\u2019r llwybr arweinyddiaeth a dod yn aelod llawn o staff tra hefyd yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru. Cymerodd y llysgenhadon ifanc ran hefyd mewn dadl yn dilyn sesiwn ar gyfathrebu. O dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy, rhoddodd hyn gyfle i\u2019r bobl ifanc rannu eu barn ar y rhaglen arweinyddiaeth a sut y gallwn barhau i\u2019w gwella wrth symud ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn cyd-daro \u00e2 Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. I nodi\u2019r achlysur, siaradodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, am ei phrofiadau drwy gydol ei gyrfa ddisglair i nodi\u2019r achlysur.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/03\/International-Womens-Day-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/03\/International-Womens-Day-1024x576.jpg\" alt=\"Group of people holding their hands in a heart shape.\" class=\"wp-image-182893\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: \u201cMae gallu dod \u00e2\u2019n llysgenhadon ifanc ynghyd yn Neuadd y Sir yn wych. Bydd clywed a gweld pawb yn ymgysylltu \u00e2\u2019i gilydd a dysgu o brofiadau gwahanol yn caniat\u00e1u i\u2019r bobl ifanc datblygu eu sgiliau arwain ymhellach. Roedd clywed gan Amber a\u2019r Prif Gwnstabl Pam Kelly ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ysbrydoliaeth. Diolch am rannu eich profiadau gyda\u2019r llysgenhadon ifanc.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I ddysgu mwy am yr Academi Arweinyddiaeth neu i ddarganfod sut y gallwch chi neu\u2019ch plant gymryd rhan, ewch i:&nbsp;h<a href=\"ttps:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/connect\/sports-development\/\">ttps:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/connect\/sports-development\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mynychodd 60 o ddisgyblion o Gynllun Academi Arweinyddiaeth Cyngor Sir Fynwy Gynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ar ddydd Gwener, 8fed Mawrth. Derbyniodd y llysgenhadon ifanc, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":27486,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-27484","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27484","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=27484"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27484\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/27486"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=27484"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=27484"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=27484"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}