{"id":27287,"date":"2024-02-14T16:48:51","date_gmt":"2024-02-14T16:48:51","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/caldicot-active-travel-links-and-multi-user-route-qa\/"},"modified":"2026-03-31T12:17:33","modified_gmt":"2026-03-31T11:17:33","slug":"caldicot-active-travel-links-and-multi-user-route-qa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/caldicot-active-travel-links-and-multi-user-route-qa\/","title":{"rendered":"Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a Llwybr Amlddefnydd"},"content":{"rendered":"\n<p>Cynlluniwyd cynllun teithio llesol Cyswllt Cil-y-coed i greu rhwydwaith integredig o lwybrau rhannu defnydd, sy\u2019n cysylltu ardaloedd preswyl presennol ac ar y gweill yn nwyrain Cil-y-coed a\u2019r cylch gyda chyrchfannau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Y nod yw galluogi preswylwyr i ddefnyddio teithio llesol ar gyfer teithiau lleol a chysylltu gyda rhwydweithiau ehangach teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus &nbsp;Glannau Hafren drwy adeiladu llwybrau ansawdd uchel a chyfleus ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed yn canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed. Rhannwyd y cynllun yn dair adran wahanol* (gweler y cynllun isod):<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Rhan 1: <\/strong>Yn rhedeg ar hyd llwybr hen reilffordd Dinham y Weinyddiaeth Amddiffyn, ychydig i\u2019r de o\u2019r Cae Grawn&nbsp; ym Mhorthysgewid, i fod yn gydwastad gyda Pharc Gwledig Castell Cil-y-coed. Mae\u2019r prif waith adeiladu bellach wedi ei gwblhau, gyda pheth m\u00e2n waith i\u2019w gwblhau yn hydref 2024 sy\u2019n cynnwys: plannu coed, tirlunio, goleuadau ac arwyddion.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rhannau 2 a 3:<\/strong>&nbsp;O\u2019r lefel gyda\u2019r parc gwledig tua\u2019r gogledd i Crug, gan groesi safleoedd CDLlD gogledd-ddwyrain Cil-y-coed. Mae aliniad llwybr yn cael ei ddatblygu.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rhan 4 \u2013 Llwybr Aml-ddefnyddiwr<\/strong>: Yn rhedeg trwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed yn cysylltu \u00e2 Chysylltiadau Cil-y-coed a&#8217;r B4245 ar yr ochr ddwyreiniol ac yn cysylltu \u00e2 Church Road (ac ymlaen i Ganol Tref Cil-y-coed) ar yr ochr orllewinol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><em>*Caiff adrannau o\u2019r cynllun eu cyflwyno fel y bydd cyllid a chyfyngiadau eraill yn caniat\u00e1u, h.y. nid o reidrwydd mewn trefn rifyddol.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Caldicot-links-scheme-phases-1024x568.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-27278\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynnydd Presennol<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Rhan 1: <\/strong>Cwblhawyd y gwaith adeiladu gan ddarparu llwybr a rennir arwyneb tarmac tua 1 cilomedr o hyd ar agor i&#8217;r cyhoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae croeso i chi ddefnyddio\u2019r rhan hon o lwybr teithio llesol newydd Cysylltiadau Cil-y-coed ar gyfer cerdded, olwynio a beicio. Sylwch nad yw&#8217;r llwybr hwn yn cael ei hyrwyddo fel un hygyrch i bob defnyddiwr ar hyn o bryd ac mae&#8217;n cynrychioli&#8217;r cam cyntaf o ran darparu cysylltiad cyflawn o Borthsgiwed i Gil-y-coed.<\/p>\n\n\n\n<p>Nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Parc Gwledig Castell Cil-y-coed: Ar hyn o bryd, nid oes llwybr wyneb caled ffurfiol yn cysylltu&#8217;r llwybr tarmac hwn \u00e2 ffordd wasanaeth tarmac y Parc Gwledig. Bydd angen i ddefnyddwyr sy&#8217;n dymuno parhau i mewn i&#8217;r Parc Gwledig ddefnyddio llwybrau glaswellt anffurfiol, sydd ag arwynebau anwastad, llethrau a giatiau.<\/li>\n\n\n\n<li>Parc Elderwood: Nid oes cysylltiad ymlaen o ben y ramp i Barc Elderwood oherwydd bod y datblygiad tai yn dal i gael ei adeiladu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-core-group-is-layout-ad2f72ca wp-block-group-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Caldicot-Links-1-after-2-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30575\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Caldicot-Links-1-after-2-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Caldicot-Links-1-after-2-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Caldicot-Links-1-after-2-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Caldicot-Links-1-after-2-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Caldicot-Links-1-after-2-1568x1176.jpg 1568w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Caldicot-Links-1-after-2.jpg 2040w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/20250306_125340-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-34022\"\/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p><em>Llun: Y Cysylltiadau Cil-y-coed newydd Cam 1<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhannau 2 a 3:<\/strong> Mae ymgynghorwyr a benodwyd gan CSF wedi cynnal astudiaeth o&#8217;r opsiynau sydd ar gael ar gyfer datblygu&#8217;r llwybr i&#8217;r gogledd a&#8217;r dwyrain o&#8217;r Parc Gwledig, gan ystyried y cyfleoedd allweddol a chyfyngiadau&#8217;r ardal hon. Mae dilyniant pellach y cynllun yn dibynnu ar ddatblygiad y safleoedd CDLlN gerllaw yn y dyfodol ac argaeledd cyllid.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhan 4 &#8211; Llwybr Aml-Ddefnyddwyr:<\/strong> Mae&#8217;r cam hwn bellach wedi&#8217;i rannu&#8217;n ddau is-gam (gweler y cynllun isod) i gynorthwyo&#8217;r datblygu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llwybr Aml-Ddefnyddiwr Cam 1<\/strong>: Mae&#8217;r cam hwn yn cysylltu pen gogleddol Cam 1 wedi&#8217;i gwblhau ac yn cysylltu \u00e2&#8217;r ffordd wasanaeth tarmac bresennol sy&#8217;n rhedeg trwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed, drwy lwybr defnydd a rennir newydd ag arwyneb caled.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnig y cynllun drwy gydol mis Awst 2025 a ddangosodd ymgysylltiad cymunedol, diddordeb a chefnogaeth dda ar gyfer Cam 1 y Llwybr Aml-Ddefnyddiwr. Nododd hefyd elfennau allweddol a fyddai&#8217;n gwella&#8217;r cynllun i ddefnyddwyr, sydd wedi&#8217;u hymgorffori yn y dyluniad lle bo hynny&#8217;n bosibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir dod o hyd i grynodeb o ganlyniadau&#8217;r ymgynghoriad <strong><u><a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/MUR-consult-report-highlights-1.pdf\">yma<\/a><\/u><\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r adroddiad ymgynghori llawn ar gael <strong><u><a href=\"https:\/\/www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk\/llwybr-aml-ddefnydd-cil-y-coed-cam-1\">yma<\/a><\/u><\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cynllun bellach yn y cam adeiladu, sydd ar hyn o bryd wedi&#8217;i gynllunio i redeg o fis Mawrth\/Ebrill tan ddiwedd Mehefin 2026.<\/p>\n\n\n\n<p>Er diogelwch defnyddwyr Parc Gwledig Castell Cil-y-coed bydd angen cau rhai rhannau o&#8217;r parc gwledig dros dro yn ystod y gwaith (ar hyd llwybr Cam 1 y Llwybr Aml-ddefnyddiwr a&#8217;r caeadle gwaith dros dro). Bydd mwy o fanylion yn dilyn trwy&#8217;r dudalen we hon ac arwyddion ar y safle. <\/p>\n\n\n\n<p>Gellir gweld delweddau o ddyluniad y cynllun ar <strong><u><a href=\"https:\/\/storymaps.arcgis.com\/stories\/1c16bfe448f14763a8e54a195d9f8633\">dudalen we ar wah\u00e2n y prosiect<\/a><\/u><\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llwybr Aml-Ddefnyddiwr Cam 2<\/strong>: Mae&#8217;r cam hwn yn rhedeg o&#8217;r gorllewin i&#8217;r dwyrain drwy&#8217;r parc gwledig, o&#8217;r fynedfa orllewinol oddi ar Heol yr Eglwys i&#8217;r fynedfa ddwyreiniol a chysylltiad \u00e2&#8217;r B4245. Mae asesiadau cychwynnol wedi&#8217;u cynnal ond ar hyn o bryd nid oes cyllid ar gael i fwrw ymlaen \u00e2&#8217;r dyluniad.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:9px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/MUR-phases-for-webpage-2025.jpg\" alt=\"Caldicot Multi-User Route phasing plan\" class=\"wp-image-34410\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Llun: Cam Cil-y-coed y Llwybr Aml-ddefnyddiwr<\/em> (&#8216;MUR Phase 1&#8217;)<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/MUR-route-sm.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-34048\" style=\"width:508px;height:auto\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Llun: Aliniad Llwybr Aml-ddefnyddiwr cam 1 arfaethedig ar hyd llinell y trac graean presennol<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pam canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynllun yn anelu i wella mynediad cynaliadwy i wasanaethau, siopau a safleoedd addysg a chyflogaeth o amgylch Cil-y-coed. Mae cynhyrchu teithiau yn gysylltiedig \u00e2\u2019r datblygiad preswyl arfaethedig yn nwyrain a gogledd Cil-y-coed yn ogystal \u00e2\u2019r angen i liniaru tagfeydd yn gysylltiedig gyda safleoedd cyflogaeth lleol a phontydd di-doll yr Hafren yn rhoi ysgogiad ychwanegol i\u2019r cynllun, gan fod hwn yn gyfle i wneud teithio llesol y dull a ffefrir ar gyfer teithiau lleol ar gyfer preswylwyr hen a newydd fel ei gilydd. Mae ganddo hefyd werth ychwanegol o ddarparu llwybr deniadol ar gyfer gweithgareddau hamdden, ac yn darparu gwell mynediad i fannau gwyrdd cymunedol lleol, fel Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed a Phrosiect Maes Cornfield, yn ogystal ag i Lwybr Arfordir Cymru a Thirwedd ehangach Gwastadeddau Gwent sydd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed a gyflwynir mewn camau yn canolbwyntio ar ddwyrain Cil-y-coed, yn cynnwys cysylltu gyda datblygiadau tai oddi ar Heol yr Eglwys a Heol Crug i sicrhau fod gan breswylwyr cyfredol a phreswylwyr y dyfodol opsiynau trafnidiaeth cyfleus, iach a chynaliadwy, i leihau a rheoli effaith traffig ffordd poblogaeth gynyddol a chyfeirio preswylwyr ac ymwelwyr i ganol y dref fel cyrchfan leol.<\/p>\n\n\n\n<p>Isod mae manylion ein Map Teithio Llesol ar gyfer Cil-y-coed, yn dangos faint o amser y byddai\u2019n ei gymryd fel arfer i&nbsp; deithio yn yr ardal leol. Bydd yr ardaloedd datblygu lleol, a ddangosir mewn brown, yn cynnwys parseli o fannau gwyrdd (h.y. mae\u2019r safleoedd a ddangosir yn cynnwys ardaloedd na fydd adeiladu):<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:15px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Caldicot-with-RLDP-sites.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-27280\" style=\"aspect-ratio:1.0671428571428572;width:563px;height:auto\"\/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw teithio llesol?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae teithio llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyno neu seiclo i gyrchfan y mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn eu disgrifio fel \u201cteithiau pwrpasol\u201d. Nid yw\u2019n cynnwys teithiau a wneir yn llwyr ar gyfer hamdden er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu\u2019r rhwydweithiau. Gellir defnyddio Teithio Llesol i fynd i\u2019r ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o nifer o ddulliau teithio ar daith hirach \u2013 er enghraifft, cerdded i\u2019r orsaf i ddal bws neu dr\u00ean. Ffocws strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yw teithiau o dair milltir neu lai, sy\u2019n golygu gwella seilwaith cerdded a seiclo o fewn cymunedau a rhwng aneddiadau cyfagos tebyg i Gil-y-coed, Porthysgewin a Crug, fel y gall teithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau lleol. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn anelu i weithio cysylltiadau teithio llesol i drafnidiaeth gyhoeddus, i gefnogi teithio cynaliadwy ar draws y sir.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut y caiff cynllun Cyswllt Cil-y-coed ei ariannu?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gwaith datblygu ac adeiladu prosiect Cysylltiadau Teithio Llesol a Llwybrau Aml-ddefnyddiwr Cil-y-coed hyd yma wedi&#8217;i ariannu gan grantiau Llywodraeth Cymru, sy&#8217;n anelu at wella dulliau trafnidiaeth gynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltwch \u00e2 ni<\/h2>\n\n\n\n<p>Os hoffech gysylltu \u00e2 th\u00eem y prosiect, e-bostiwch <a href=\"mailto:ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk\">ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynlluniwyd cynllun teithio llesol Cyswllt Cil-y-coed i greu rhwydwaith integredig o lwybrau rhannu defnydd, sy\u2019n cysylltu ardaloedd preswyl presennol ac ar y gweill yn nwyrain Cil-y-coed a\u2019r cylch gyda chyrchfannau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[86,149],"tags":[],"class_list":["post-27287","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-active-travel-cy","category-monlife-outdoor-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27287","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=27287"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27287\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36351,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27287\/revisions\/36351"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=27287"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=27287"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=27287"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}