{"id":27176,"date":"2024-02-05T17:03:50","date_gmt":"2024-02-05T17:03:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=27176"},"modified":"2024-02-05T17:04:49","modified_gmt":"2024-02-05T17:04:49","slug":"rhaglen-nofio-ysgolion-sir-fynwy-yn-llwyddo-yng-ngwobrau-blynyddol-nofio-cymru-2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/rhaglen-nofio-ysgolion-sir-fynwy-yn-llwyddo-yng-ngwobrau-blynyddol-nofio-cymru-2024\/","title":{"rendered":"Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy yn llwyddo yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy wedi ennill gwobr \u2018Nofio Ysgolion a Diogelwch yn y D\u0175r\u2019 yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn y gwobrau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr, llwyddodd Adran Chwaraeon a Hamdden MonLife i ennill y wobr yn dilyn 2023 gwych. Nod y rhaglen yw sicrhau bod nofio mewn ysgolion yn hygyrch i gynifer o blant \u00e2 phosibl ledled Sir Fynwy, cydweithrediad rhwng ysgolion a hamdden i ddarparu sgiliau bywyd hanfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2023, roedd 100% o ysgolion Cynradd ac Uwchradd Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn rhaglen nofio MonLife. Daeth dros 3500 o blant i ddilyn Fframwaith Nofio Ysgol. Arweiniodd y rhaglen at gynnydd o 12.5% yn nifer y disgyblion a enillodd Wobr Nofio Ysgol ym mlwyddyn 6, gyda dros 62% o ddisgyblion yn cyflawni deilliannau\u2019r cwricwlwm erbyn i\u2019w cyfnod yn yr ysgol gynradd ddod i ben.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhaglen yn rhoi pwyslais mawr ar ddiogelwch yn y d\u0175r, ac yn ystod Wythnos Atal Boddi, cafodd pawb a fynychodd wers atal boddi bwrpasol. Ategwyd hyn ymhellach gan y sesiwn benodol am Ddiogelwch yn y D\u0175r a roddwyd i\u2019r sawl a fu\u2019n cymryd rhan yn eu sesiwn gyntaf.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/02\/County-Councillor-Angela-Sandles-with-students-from-Magor-Church-in-Wales-primary-school-at-their-school-swimming-lesson.png\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2024\/02\/County-Councillor-Angela-Sandles-with-students-from-Magor-Church-in-Wales-primary-school-at-their-school-swimming-lesson-1024x576.png\" alt=\"Cabinet Member for Equalities and Engagement, Cllr Angela Sandles with students from Magor Church in Wales Primary School at their school swimming lesson.\n\" class=\"wp-image-180801\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr yn eu gwers nofio<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhaglen hefyd wedi galluogi myfyrwyr Academi Arweinyddiaeth MonLife i gael profiad o weithio mewn digwyddiadau chwaraeon. Yn nhymor yr haf 2023, bu myfyrwyr yr Academi Arweinyddiaeth yn cynorthwyo staff MonLife i gynnar pedair G\u0175yl Nofio ar gyfer Ysgolion Cynradd. Roedd 345 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cynhwysol. Roedd gwyliau yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn caniat\u00e1u i ddisgyblion gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau hwyl heb orfod cystadlu, gan gynnwys fflotiau, strociau a rasys woggle.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: \u201cMae\u2019r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein Hadran Chwaraeon a Hamdden, hyfforddwyr nofio ac athrawon ysgol. Mae\u2019n rhoi mynediad i ddysgwyr i ddatblygu sgiliau sy\u2019n hanfodol iddynt fyw bywyd gweithgar a sgiliau a all achub bywydau. Llongyfarchiadau a diolch i\u2019r holl staff sy\u2019n cynnal ac yn cefnogi\u2019r rhaglen.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy wedi ennill gwobr \u2018Nofio Ysgolion a Diogelwch yn y D\u0175r\u2019 yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024. Yn dilyn y gwobrau a gynhaliwyd ar 20fed [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":27174,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-27176","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27176","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=27176"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/27176\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/27174"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=27176"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=27176"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=27176"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}