{"id":23864,"date":"2023-08-03T15:47:04","date_gmt":"2023-08-03T14:47:04","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=23864"},"modified":"2023-08-03T15:48:17","modified_gmt":"2023-08-03T14:48:17","slug":"dweud-eich-dweud-ar-fannau-gwyrdd-a-safleoedd-natur-yn-sir-fynwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/dweud-eich-dweud-ar-fannau-gwyrdd-a-safleoedd-natur-yn-sir-fynwy\/","title":{"rendered":"Dweud eich dweud ar fannau gwyrdd a safleoedd natur yn Sir Fynwy"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2023\/07\/Wildflower-Meadow-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2023\/07\/Wildflower-Meadow-1024x929.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-167864\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru \u2013 Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y cyllid yn galluogi\u2019r gwaith o ddylunio rhwng 15a 20 o Brosiectau Seilwaith Gwyrdd bach a chanolig eu maint yn y Fenni, Trefynwy, Magwyr gyda Gwndy a Rogiet. Seilwaith Gwyrdd yw\u2019r term a ddefnyddir i ddisgrifio creu a rheoli mannau gwyrdd, yn ogystal \u00e2 chynlluniau fel plannu coed brodorol, rheoli coetiroedd a safleoedd sy\u2019n cynnal bywyd gwyllt a pheillwyr, gan gynnwys pyllau d\u0175r&nbsp; a gwlypdiroedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect hwn yn gofyn am farn trigolion lleol am y safleoedd arfaethedig a\u2019r gwelliannau bioamrywiaeth. Er mwyn cymryd rhan, ewch i wefan Monlife, llenwch holiadur byr a rhowch eich adborth cyn i\u2019r ymgynghoriad ddod i ben am hanner nos ar&nbsp;<strong><u>ddydd Llun 4 Medi, 2023.<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2023\/07\/Orchard.png\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2023\/07\/Orchard.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-167866\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy wedi mapio \u2018Coridorau Gwyrdd\u2019 (cyfres o fannau gwyrdd cysylltiol) sy\u2019n croes-groesi ardaloedd trefol. Mae bywyd gwyllt, fel peillwyr ac adar, yn defnyddio\u2019r coridorau gwyrdd hyn a\u2019r mannau gwyrdd cysylltiedig fel cerrig camu ar gyfer lloches neu i ddod o hyd i fwyd, ar eu ffordd i dirweddau mwy sy\u2019n amgylchynu ein haneddiadau. Mae mannau trefol yn dod yn fwyfwy pwysig wrth helpu ein bywyd gwyllt i ffynnu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pwysigrwydd cael cynefinoedd brodorol llawn bywyd gwyllt wedi\u2019i nodi ar safleoedd gwyrdd penodol, ac mae dyluniadau amlinellol arfaethedig wedi\u2019u dylunio i weithio ochr yn ochr \u00e2\u2019r defnydd presennol a wneir o\u2019r mannau gwyrdd hyn. Y buddion ychwanegol i\u2019r cynefinoedd newydd neu well hyn yw: creu ecosystemau gwydn, llesiant cymunedol, rheoli newid yn yr hinsawdd, darparu aer gl\u00e2n, storio carbon, darparu atebion llifogydd a chreu mynediad at natur ar garreg ein drws. Lle bo modd, bydd y Cyngor yn ceisio cyllid i ddarparu\u2019r safleoedd hyn yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae lleoliadau arfaethedig Sir Fynwy yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Fenni<\/strong>: Cynllun Allweddol Ymylon Hen Ffordd Henffordd, Maes Parcio Ysgol Gynradd Deri View Hen Ffordd Henffordd, Hen Heol Henffordd (Canol), Hen Heol Henffordd (De), Parc Belgrave, Ysgol Gynradd Cantref, Ysgol Gynradd Gatholig Our Lady &amp; St Michael,<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Trefynwy<\/strong>: Rolls Avenue, Cae Chwarae Cl\u00f4s Hendre, Rockfield Avenue a Watery Lane, Clawdd Du (Gorllewin), Clawdd Du (Dwyrain)<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Magwyr<\/strong>&nbsp;<strong>gyda Gwndy<\/strong>: Ymylon Heol Casnewydd, Rhodfa Blenheim a Pharc Redwick .<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rogiet<\/strong>: Ymylon ac ynysoedd traffig Slade View, Caeau Chwarae Rogiet, Parc Cefn Gwlad Rogiet\/Cyffordd Twnnel Hafren.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Prosiectau Seilwaith Gwyrdd posibl y gellir eu cynnwys<\/strong>&nbsp;(yn dibynnu ar ecoleg bresennol y safle):<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Gwrychoedd newydd\/rheoli gwrychoedd<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Newid rheolaeth glaswelltir\/ dolydd blodau gwyllt brodorol<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Plannu bylbiau brodorol<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Plannu Coed Brodorol, gan gynnwys Perllannau<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Rheoli coetir, megis prysgoedio<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Creu pwll neu grafiadau llaith\/gwlyb<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Cartrefi bywyd gwyllt: blychau adar\/ystlumod\/mamaliaid\/ llochesi fel rhan o\u2019r cynllun<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Byw: \u201cRydym wrth ein bodd bod y cyllid ar gael i ddatblygu cynlluniau ar gyfer coridorau gwyrdd yn Sir Fynwy. Rwy\u2019n gobeithio y bydd trigolion a busnesau yn yr ardaloedd sy\u2019n cael eu hystyried \u2013 Y Fenni, Magwyr gyda Gwndy, Trefynwy a Rogiet \u2013 yn manteisio ar y cyfle i gymryd rhan a\u2019n rhoi gwybod i ni beth hoffent ei weld yn cael ei gynllunio ar gyfer eu cymuned.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a\u2019r Amgylchedd: \u201cMae\u2019r arolwg hwn yn bwysig a bydd yn helpu i gael dealltwriaeth well o\u2019r hyn y mae cymunedau Sir Fynwy ei eisiau. Rydym eisoes yn gweithio gyda Chynghorwyr Tref a Sir etholedig yn ogystal \u00e2 grwpiau diddordeb lleol, ond mae\u2019n bwysig bod y timau sy\u2019n gweithio ar y prosiect hwn yn deall sut mae\u2019r mannau gwyrdd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a\u2019r hyn y mae cymunedau am ei weld yn y mannau gwyrdd hyn. Rwy\u2019n annog pawb i ymweld \u00e2&nbsp;Prosiect Seilwaith Coridorau Gwyrdd \u2013&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/outdoor\/green-infrastructure\/partneriaethau-seilwaith-gwyrdd\/gwent-green-grid-partnership\/gi-projects\/green-corridor-infrastructure-project\/\">Monlife<\/a>&nbsp;lle byddwch yn dod o hyd i ddolen i holiadur. Bydd eich adborth yn helpu\u2019r prosiectau hyn i ddatblygu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru \u2013 Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":23863,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-23864","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/23864","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=23864"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/23864\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/23863"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=23864"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=23864"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=23864"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}