{"id":22425,"date":"2023-04-25T16:39:21","date_gmt":"2023-04-25T15:39:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=22425"},"modified":"2023-04-25T16:42:02","modified_gmt":"2023-04-25T15:42:02","slug":"mwy-na-760k-o-gyllid-wedi-ei-gyhoeddi-ar-gyfer-amgueddfeydd-sir-fynwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/mwy-na-760k-o-gyllid-wedi-ei-gyhoeddi-ar-gyfer-amgueddfeydd-sir-fynwy\/","title":{"rendered":"Mwy na \u00a3760k o gyllid wedi ei gyhoeddi ar gyfer amgueddfeydd Sir Fynwy"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2023\/04\/Shire-Hall-Monmouth-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2023\/04\/Shire-Hall-Monmouth-1024x768.jpg\" alt=\"Shire Hall, Trefynwy\" class=\"wp-image-161170\"\/><\/a><figcaption>Shire Hall, Trefynwy<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae amgueddfeydd Sir Fynwy sydd yn cael eu rheoli gan MonHeritage, sy\u2019n rhan o Gyngor Sir Fynwy, wedi derbyn hwb ar \u00f4l y rownd ddiwethaf o ddyfarniadau ariannol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynllun i ail-leoli amgueddfa Trefynwy i\u2019r Shire Hall (Neuadd y Sir) gam yn agosach yn sgil y Grant Datblygu o \u00a3349,928 a ddyfarnwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid yn caniat\u00e1u\u2019r Cyngor i ail-ddatblygu\u2019r Neuadd Sir fel amgueddfa achrededig.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd grant ychwanegol o \u00a3241,697 wedi ei ddyfarnu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Casgliadau Deinamig) er mwyn gwella\u2019r gwaith catalogio o Gasgliad Trefynwy ac i ymgynghori gyda chymunedau lleol am y straeon y maent am weld yn cael eu olrhain yn arddangosfeydd yr amgueddfa. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys arddangosfeydd o fewn y gymuned ac yn y Neuadd Sir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwaith cadwraeth a gwelliannau i gasgliad Nelson eisoes wedi eu gwneud. Lluniwyd adroddiad a ariannwyd gan Ffederasiwn Amgueddfeydd a Galer\u00efau Cymru yn ystod 2022 a oedd yn amlinellu pwysigrwydd cenedlaethol casgliad Nelson. Mae hyn wedi ei gymeradwyo gan Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich. Mae\u2019r amgueddfa hefyd wedi gweithio gyda Race Council Cymru er mwyn cynnal dau weithdy gyda\u2019r testunau na sydd wedi eu trafod rhyw lawer cyn hyn yngl\u0177n \u00e2 Nelson ond y mae pobl am weld.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am amgueddfeydd MonHeritage:<br>\u201cRwyf wrth fy modd fod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi\u2019r cynlluniau ar gyfer adleoli amgueddfa Trefynwy i\u2019r Neuadd Sirol. Bydd yn helpu ni ddatblygu\u2019r cynlluniau i wneud yr amgueddfa, y casgliad, ac arddangosfeydd y dyfodol yn fwy cynrychioliadol o Drefynwy, y sir, ei hanes a\u2019i phobl.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae amgueddfeydd MonHeritage yn y Fenni a Chas-gwent hefyd wedi elwa o gyllid. Roeddynt wedi derbyn \u00a3173,318 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect \u2013 Ymchwilio, ail-asesu ac adhawlio: treftadaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at yr amcanion treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru. Mae\u2019r dyfarniad yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei ddechrau yn y ddwy amgueddfa ac yn cyfrannu at ddehongliadau gwell o\u2019r casgliadau, yn cynrychioli eu cysylltiad gyda chaethwasiaeth yn well ynghyd \u00e2 choloneiddio a\u2019r ymerodraeth, ac yn cydnabod y r\u00f4l sydd wedi ei chwarae gan gymunedau Sir Fynwy o ran caethwasiaeth, yr ymerodraeth a globaleidido.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda Race Council Cymru, bydd MonHeritage yn cynnal gweithdai cymunedol er mwyn archwilio ffyrdd i ddehongli\u2019r casgliadau yma yn well. Bydd gweithio gyda chymunedau yn caniat\u00e1u\u2019r t\u00eem Dysgu a\u2019r Churadurol i greu rhaglen o weithgareddau sydd yn debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd yn lleoliadau Sir Fynwy. At hyn, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a\u2019r dreftadaeth leol yng Nghas-gwent.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghas-gwent, mae prosiect sydd wedi ei ariannu gan \u00a310,000 o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol newydd ei gwblhau er mwyn ymchwilio ac ail-ddehongli bywydau\u2019r nyrsys a oedd wedi gweithio yn yr amgueddfa pan oedd yn ysbyty. Mae\u2019r arddangosfa sydd wedi ei hysbrydoli gan y prosiect ar agor tan fis Rhagfyr 2023.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd amgueddfa Cas-gwent yn agor arddangosfa barhaol yn ymwneud gyda Thaith y Gwy ym mis Gorffennaf. Bydd yn cynnwys llun gan JMW Turner a brynwyd yn diweddar yn dilyn cyfraniad o \u00a376,000 gan Gyngor Celfyddydau Lloegr\/Cronfa Grant Prynu V&amp;A a chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, Museums Association Beecroft Bequest, Ymddiriedolaeth Dyffryn Gwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn dysgu mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy, ewch i&nbsp;<a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=http%3A%2F%2Fwww.monlife.co.uk%2Fheritage%2F&amp;data=05%7C01%7CCommunications%40monmouthshire.gov.uk%7C7d4d332305e1495cbbde08db458fa99d%7C2c4d0079c52c4bb3b3cad8eaf1b6b7d5%7C0%7C0%7C638180255556881171%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&amp;sdata=WynIQ5crzbyfo8yLrha57rd%2BpCRXF6xvPaqrNxGG6qU%3D&amp;reserved=0\">www.monlife.co.uk\/heritage\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae amgueddfeydd Sir Fynwy sydd yn cael eu rheoli gan MonHeritage, sy\u2019n rhan o Gyngor Sir Fynwy, wedi derbyn hwb ar \u00f4l y rownd ddiwethaf o ddyfarniadau ariannol. Mae\u2019r cynllun [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-22425","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22425","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22425"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22425\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22425"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22425"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22425"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}