{"id":21579,"date":"2023-03-24T16:46:13","date_gmt":"2023-03-24T16:46:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/paentiad-pwysig-turner-o-gastell-cas-gwent-yn-dod-gartref\/"},"modified":"2023-03-24T17:03:33","modified_gmt":"2023-03-24T17:03:33","slug":"paentiad-pwysig-turner-o-gastell-cas-gwent-yn-dod-gartref","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/paentiad-pwysig-turner-o-gastell-cas-gwent-yn-dod-gartref\/","title":{"rendered":"Paentiad pwysig Turner o Gastell Cas-gwent yn dod gartref"},"content":{"rendered":"<p><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/Chepstow-Castle-JMW-Turner-1794-002-1024x763.jpg\" \/><\/p>\n<p>Diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr\/Cronfa Grant Prynu\u00a0 V&amp;A\u00a0 a chymorth y Loteri Genedlaethol, Becwedd Beecroft y Gymdeithas Amgueddfeydd, Ymddiriedolaeth Dyffryn Wysg a chronfa pryniant amgueddfeydd MonLife, bydd \u2018trysor lleol\u2019 \u2013 paentiad gan JMW Turner yn dod gartref i Gas-gwent yn fuan. Mae dyfrlliw Turner o Gastell Cas-gwent yn un o ddim ond dau o weithiau gan yr artist y gwyddys eu bod yn dangos yr olygfa eiconig o\u2019r castell ger Afon Gwy.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Treftadaeth MonLife wedi sicrhau\u2019r tirlun hardd a gaiff ei arddangos yn yr haf yn amgueddfa Cas-gwent a gobeithir y bydd cynifer o bobl leol ag sydd modd yn ymweld i edrych ar y paentiad a chael eu hysbrydoli ganddo.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Caiff Joseph Mallord William Turner (1775-1851) ei gydnabod fel efallai yr artist \u2018Rhamantus\u2019 Prydeinig gorau a chyfeirir ato yn aml fel \u201cpaentiwr goleuni\u201d oherwydd ei allu i gyfleu tirluniau a morluniau egn\u00efol ar bapur a chanfas.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dim ond 19 oed oedd Turner pan baentiodd y dyfrlliw o Gastell Cas-gwent yn 1794 a chredir iddo gael ei greu fel canlyniad i daith gyntaf yr artist o Dde Cymru. Unwaith y caiff ei arddangos yn Amgueddfa Cas-gwent, bydd y paentiad yn helpu i gyfleu stori Sir Fynwy y 18fed ganrif a hefyd gariad Turner at y sir.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol a Gweithredol: \u201cMae\u2019n newyddion gwych y bydd y paentiad yn dychwelyd i Gas-gwent lle gwnaeth Turner ei baentio yn 19 oed. Daw yn em yng nghasgliad paentiadau a darluniau Sir Fynwy a ysbrydolwyd gan Ddyffryn Gwy. Gobeithiaf y bydd artistiaid ifanc heddiw yn ei weld ac yn cael eu hysbrydoli. Roeddem wedi credu y byddai prynu gwaith celf pwysig fel hyn allan o\u2019n cyrraedd, nes i gyllidwyr hael gamu mewn i arbed y paentiad ar gyfer y genedl a Sir Fynwy.\u201d<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Caiff paentiad Turner ei arddangos yng Nghas-gwent yn yr haf, yn y cyfamser i ganfod mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy a\u2019u harddangosiadau cyfredol ewch i\u00a0 <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.monlife.co.uk%2Fheritage%2F&amp;data=05%7C01%7CRebeccaPerry%40monmouthshire.gov.uk%7Ca59e53c6eb46419f7d0408db2c84f89d%7C2c4d0079c52c4bb3b3cad8eaf1b6b7d5%7C0%7C0%7C638152721829192432%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&amp;sdata=OlggxW%2BcBHz%2FzKaqWUJCeTB1hcjq2dXb8IwroVW5jDE%3D&amp;reserved=0\">https:\/\/www.monlife.co.uk\/heritage\/<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr\/Cronfa Grant Prynu\u00a0 V&amp;A\u00a0 a chymorth y Loteri Genedlaethol, Becwedd Beecroft y Gymdeithas Amgueddfeydd, Ymddiriedolaeth Dyffryn Wysg a chronfa pryniant amgueddfeydd MonLife, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":21577,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-21579","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21579","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21579"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21579\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21577"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21579"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21579"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21579"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}