{"id":21464,"date":"2023-03-06T10:33:31","date_gmt":"2023-03-06T10:33:31","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/treftadaeth-sir-fynwy-i-elwa-o-wobrau-ariannol\/"},"modified":"2023-03-06T10:34:02","modified_gmt":"2023-03-06T10:34:02","slug":"treftadaeth-sir-fynwy-i-elwa-o-wobrau-ariannol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/treftadaeth-sir-fynwy-i-elwa-o-wobrau-ariannol\/","title":{"rendered":"Treftadaeth Sir Fynwy i elwa o wobrau ariannol"},"content":{"rendered":"<header class=\"page-header\"><\/header>\n<div class=\"page-content\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-scaled.jpg\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-152236\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-1024x683.jpg\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" srcset=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-scaled.jpg 2048w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Tea-Caddy-600x400.jpg 600w\" alt=\"Cadi te \u2013 gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau'n cynnwys eitemau sy'n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig.  Bydd y gwaith hwn yn dehongli'r gwrthrychau hyn yn well. \" width=\"1024\" height=\"683\"><\/a><figcaption>Cadi te \u2013 gyda chapsiynau.&nbsp;Mae ein casgliadau\u2019n cynnwys eitemau sy\u2019n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig. &nbsp;Bydd y gwaith hwn yn dehongli\u2019r gwrthrychau hyn yn well.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae MonLife, sy\u2019n rhedeg gwasanaeth Treftadaeth MonLife Cyngor Sir Fynwy, wedi sicrhau dau ddyfarniad cyllid gwerth dros \u00a3415,000 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae\u2019r dyfarniad yn galluogi Treftadaeth MonLife i weithio\u2019n agos gyda chymunedau yn Sir Fynwy, dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod straeon pawb yn cael eu hadrodd yn amgueddfeydd y sir.<\/p>\n<p>Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu \u00a3241,697 ar gyfer y prosiect \u2018Casgliadau Deinamig \u2013 Agor y Blwch\u2019 sy\u2019n darganfod a rhannu casgliad hanes lleol Trefynwy. Bydd y gwaith hwn yn trawsnewid sut y cofnodir casgliadau hanes lleol Trefynwy, gan eu gwneud yn berthnasol i gymunedau heddiw.<\/p>\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Collection-Review-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" class=\"wp-image-152238\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Collection-Review-492x1024.jpg\" sizes=\"(max-width: 492px) 100vw, 492px\" srcset=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Collection-Review-492x1024.jpg 492w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Collection-Review-144x300.jpg 144w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Collection-Review-768x1597.jpg 768w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Collection-Review-738x1536.jpg 738w, https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2022\/12\/Collection-Review-scaled.jpg 985w\" alt=\"Adolygiad Casgliadau - gyda chapsiynau.  Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt \" width=\"492\" height=\"1024\"><\/a><figcaption>Adolygiad Casgliadau \u2013 gyda chapsiynau. &nbsp;Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt<\/figcaption><\/figure>\n<p>Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025 a bydd y tasgau\u2019n cynnwys: Gwella cronfa ddata catalogau cyfrifiadurol a chomisiynu adroddiad ar arteffactau ymerodraethol, caethwasiaeth a gwladychiaeth o fewn y casgliad hanes lleol, i ategu adroddiadau a gynhyrchwyd yn ddiweddar am gasgliadau amgueddfeydd yn y Fenni a Chas-gwent.<\/p>\n<p>Bydd t\u00eem Treftadaeth MonLife yn gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol i archwilio\u2019n gritigol sut a beth sy\u2019n cael ei gofnodi am gasgliadau, gan gynnwys nodi termau allweddol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Hil Cymru i gefnogi sesiynau gyda grwpiau hil amrywiol; y rhai sydd ag anabledd a\u2019r gymuned LHDTC+, ac yn gweithio gyda phobl sy\u2019n deall ecoleg a newid yn yr hinsawdd.<\/p>\n<p>Bydd y prosiect hwn yn arwain at arddangosfa deithiol gymunedol wedi\u2019i chyd-guradu, sy\u2019n archwilio\u2019r cwestiwn \u201cBeth sy\u2019n gwneud Trefynwy?\u201d Bydd hyn yn golygu bod modd clywed gwahanol safbwyntiau, archwilio cyd-destunau newydd ac adrodd amrywiaeth o straeon. Bydd yr arddangosfa yn mynd o amgylch lleoliadau cymunedol, gan rannu casgliadau gyda chynulleidfaoedd newydd na fyddai efallai wedi ymweld \u00e2\u2019r amgueddfa o\u2019r blaen. Bydd cyd-arddangosfa yn y Neuadd Sirol yn galluogi them\u00e2u a archwilir yn y prosiect i gael eu harddangos a threialu dulliau newydd cyn ailddatblygiad Amgueddfa\u2019r Neuadd Sirol. Bydd rhaglen ymgysylltu cymunedol o sesiynau dysgu, gweithdai trafod, sesiwn y Dadeni a gweithgareddau crefft yn hwyluso trafodaeth am ein casgliadau.<\/p>\n<p>Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: &nbsp;\u201cMae treftadaeth ar gyfer pawb, ac rydym am weld ystod ehangach o bobl yn ymwneud \u00e2 threftadaeth, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiect \u2018Casgliadau Deinamig \u2013 Agor y Blwch\u2019 Cyngor Sir Fynwy. Trwy ein cyllid rydym yn ceisio dod \u00e2 chymunedau ynghyd drwy ymgysylltu\u2019n ddyfnach \u00e2 threftadaeth, yn enwedig drwy ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddod \u00e2 threftadaeth i gynulleidfaoedd newydd. &nbsp; Bydd hyn yn helpu i drafod ac archwilio ein treftadaeth fel y gall pobl a chymunedau ledled Cymru ymgysylltu \u00e2, dehongli, a chyd-ddeall ein gorffennol.\u201d<\/p>\n<p>I gefnogi casgliadau Treftadaeth MonLife yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, mae MonLife wedi derbyn \u00a3173,318 gan Lywodraeth Cymru. Mae\u2019r cyllid ar gyfer y prosiect \u2018Ymchwilio, ail-archwilio ac adennill: etifeddiaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy\u2019.&nbsp;Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at y nodau treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Atal Hiliol Cymru. &nbsp; Mae\u2019r wobr yn adeiladu ar waith a ddechreuwyd yn y ddwy amgueddfa, a bydd yn arwain at well dehongliad o\u2019r casgliadau, gan gynrychioli\u2019n well eu cysylltiadau \u00e2 chaethwasiaeth, gwladychu ac ymerodraeth a chydnabod r\u00f4l cymunedau Sir Fynwy yn y gorffennol mewn caethwasiaeth, ymerodraeth a globaleiddio.<\/p>\n<p>Gyda gyda Chyngor Hil Cymru, bydd Treftadaeth MonLife yn cynnal gweithdai cymunedol i archwilio ffyrdd o ddehongli\u2019r casgliadau\u2019n well. Bydd cydweithio \u00e2\u2019r cymunedau\u2019n galluogi\u2019r t\u00eem Dysgu a Churaduriaeth i greu rhaglen weithgareddau, sy\u2019n debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd mewn lleoliadau Sir Fynwy. Yn ogystal, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a threftadaeth leol.<\/p>\n<p>Ymwelodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, ag Amgueddfa\u2019r Fenni yn ddiweddar a dywedodd:&nbsp; \u201cRoedd yn ardderchog i ddysgu mwy am sut y bydd ein cyllid yn cael ei ddefnyddio gan MonLife. &nbsp; Mae angen i\u2019n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau, a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol o bobl a lleoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.&nbsp; Rhaid i\u2019n diwylliant, ein treftadaeth a\u2019n gwasanaethau chwaraeon fod yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn adlewyrchu\u2019r hanes a\u2019r cyfraniad a wnaed gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i\u2019r gymdeithas yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cRydw i wedi ymrwymo i gyflawni\u2019r nodau a\u2019r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau\u2019r Rhaglen Lywodraethu o fewn fy mhortffolio.&nbsp; Rwy\u2019n edrych ymlaen at weld sut mae prosiect MonLife yn cyfrannu at ein cynnydd parhaus wrth i ni sicrhau newid ystyrlon gyda phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac ar eu cyfer.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwaith hwn yn ategu penderfyniad diweddar Cyngor Sir Fynwy i ddod yn aelod o rwydwaith Dinas Noddfa ac i ddechrau\u2019r broses o wneud cais ffurfiol i fod yn sir noddfa i\u2019r rhai sy\u2019n ffoi rhag erledigaeth.<\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithredol: \u201cRydym yn ddiolchgar iawn am yr arian yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.&nbsp; Bydd yn arwain at welliannau arwyddocaol yn y ffordd mae ein casgliadau treftadaeth yn cael eu dehongli, eu harddangos a\u2019u cyfathrebu.&nbsp; &nbsp;Bydd y gweithgareddau, sydd wedi eu cynllunio yn y ddwy raglen hyn, yn ein helpu i nodi a rhannu \u00e2 phobl y straeon sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019n casgliadau a\u2019n bro, sy\u2019n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol lawn ein cymunedau yn Sir Fynwy a bydd yn galluogi cynrychiolaeth o\u2019n holl gymunedau yn ein hamgueddfeydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Hil Cymru i sicrhau bod ein casgliadau yn berthnasol, yn barchus ac yn gynhwysol.\u201d<\/p>\n<p>I gael mwy o wybodaeth am Dreftadaeth MonLife, ewch i&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/\">https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/<\/a><\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cadi te \u2013 gyda chapsiynau.&nbsp;Mae ein casgliadau\u2019n cynnwys eitemau sy\u2019n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig. &nbsp;Bydd y gwaith hwn yn dehongli\u2019r gwrthrychau hyn yn well. Mae MonLife, sy\u2019n rhedeg gwasanaeth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-21464","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21464","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21464"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21464\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21464"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21464"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21464"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}