{"id":36611,"date":"2026-05-15T14:11:04","date_gmt":"2026-05-15T13:11:04","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/outdoor\/green-infrastructure\/monmouthshire-local-nature-partnership\/monmouthshire-local-nrap-action-plan\/community-action-plan\/himalayan-balsam\/"},"modified":"2026-05-15T14:21:24","modified_gmt":"2026-05-15T13:21:24","slug":"himalayan-balsam","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/outdoor\/green-infrastructure\/monmouthshire-local-nature-partnership\/monmouthshire-local-nrap-action-plan\/community-action-plan\/himalayan-balsam\/","title":{"rendered":"Tudalen we Ffromlys Chwarennog"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Tudalen we Ffromlys Chwarennog<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth yw ffromlys chwarennog?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Ffromlys chwarennog (<em>Impatiens glandulifera<\/em>) yw rhywogaeth o blanhigion goresgynnol a gyflwynwyd i&#8217;r DU o orllewin Mynyddoedd Himalaia ym 1839. Mae rhywogaethau goresgynnol yn anfrodorol, ac yn niweidio&#8217;r amgylchedd y maent yn cael eu cyflwyno iddo trwy amharu ar gydbwysedd yr ecosystem.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir dod o hyd i ffromlys chwarennog fel arfer wedi&#8217;i glystyru mewn ardaloedd \u00e2 lefelau uchel o leithder, megis ar hyd afonydd, mewn cynefinoedd afonol a choetiroedd llaith. Maent hefyd wedi cael eu gweld i oresgyn rhwydweithiau trafnidiaeth fel traciau tr\u00ean ac yn gallu gwladychu&#8217;n gyflym ardaloedd sydd wedi&#8217;u haflonyddu fel safleoedd adeiladu neu safleoedd tanau gwyllt. Nhw yw&#8217;r planhigyn blynyddol talaf yn Ewrop, sy&#8217;n tyfu hyd at 2.5 m o uchder, ac fe&#8217;u nodweddir gan eu coesyn gwyrdd i goch, blodau pinc mawr, si\u00e2p bonet (tua 4 cm) a dail danheddog (ar y dde). Mae codennau hadau aeddfed (chwith) yn 2-3 cm o hyd.&nbsp; Mae eu coesau wedi&#8217;u segmentu \u00e2 nodau nodweddiadol, gyda dail yn ymddangos mewn parau gyferbyn \u00e2&#8217;i gilydd neu droellau o 3 o amgylch y nodau hyn.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"611\" height=\"458\" data-id=\"36609\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/hbw-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-36609\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/hbw-2.jpg 611w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/hbw-2-300x225.jpg 300w\" sizes=\"(max-width: 611px) 100vw, 611px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"686\" height=\"457\" data-id=\"36608\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/hbw-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-36608\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/hbw-1.jpg 686w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/hbw-1-300x200.jpg 300w\" sizes=\"(max-width: 686px) 100vw, 686px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"582\" height=\"436\" data-id=\"36604\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/BHM-website.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-36604\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/BHM-website.png 582w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/BHM-website-300x225.png 300w\" sizes=\"(max-width: 582px) 100vw, 582px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Effeithiau ffromlys chwarennog<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Lledaeniad:<\/strong>&nbsp; Gall pob planhigyn ffromlys chwarennog gynhyrchu hyd at 2500 o hadau, y gellir eu taflu allan hyd at 7 m i ffwrdd o&#8217;r rhiant-blanhigyn ac arnofio i lawr yr afon. Mae&#8217;r arddull gwasgaru ffrwydrol hwn, bywiogrwydd hadau a chynhyrchiad hadau uchel yn arwain at gyfraddau twf cyflym, gan ganiat\u00e1u i ffromlys chwarennog ledaenu&#8217;n gyflym trwy ardal. Maent yn ffurfio clystyrau dwys, unig-rywogaeth, lle maent, fel un rhywogaeth yn dominyddu ardal, gan drechu rhywogaethau brodorol am adnoddau fel maetholion, d\u0175r a golau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Lleihau peillio:<\/strong>&nbsp; Mae ffromlys chwarennog yn tynnu sylw peillwyr oddi wrth blanhigion brodorol; bydd y rhywogaethau hyn yn gweld cynhyrchu hadau is, sy&#8217;n golygu eu bod yn llai abl i atgenhedlu ac ailboblogi&#8217;r ardal, gan arwain at ddirywiad mewn amrywiaeth rhywogaethau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dadelfennu:<\/strong> Gwelir bod ffromlys chwarennog yn cael effaith niweidiol ar boblogaethau microbaidd pridd (ffyngau mycorhisal), gan effeithio ar ei allu i dorri lawr deunydd organig ac ailgyflenwi maetholion pridd i gynorthwyo twf planhigion newydd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynyddu perygl llifogydd:<\/strong> Mae ffromlys chwarennog yn cwblhau ei gylch bywyd mewn un flwyddyn, cyn marw yn \u00f4l ar ddiwedd yr hydref-gaeaf. Mae ei system wreiddiau bas yn rhwymo pridd yn llai effeithiol na phlanhigion brodorol, ac wrth i&#8217;r unig-rywogaeth ddiflannu, mae&#8217;n gadael glan yr afon yn agored a&#8217;r pridd ansefydlog yn agored i erydiad pellach. Gall deunydd organig sy&#8217;n mynd i mewn i&#8217;r d\u0175r greu argaeau i lawr yr afon, gan arwain at fwy o berygl llifogydd, oherwydd cyfyngu ar lif afonydd a diffyg gorchudd llystyfiant i gipio glawiad.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth i&#8217;w wneud am ffromlys chwarennog?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cael gwared ar ffromlys chwarennog yn hanfodol wrth adfer ecosystemau er mwyn caniat\u00e1u i rywogaethau brodorol adfer: mae amrywiaeth o dechnegau rheoli wedi&#8217;u cyflwyno yn y DU, gan gynnwys rhyddhau dau straen ffwng rhwd (<em>Puccinia komarovii<\/em> amrywiolyn <em>Glanduliferae<\/em>) fel rheolaeth fiolegol i dargedu&#8217;r rhywogaeth, a sefydlodd ei hun yn llwyddiannus mewn sawl cytref agored i niwed ledled y wlad. Y dull mwyaf cyffredin o reoli ffromlys chwarennog, fodd bynnag, <strong>yw gwaredu ar blanhigion trwy eu tynnu\/torri \u00e2 llaw<\/strong>. I dynnu ffromlys chwarennog \u00e2 llaw yn effeithiol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhaid gwaredu ar y planhigyn cyfan, gan gynnwys y system wreiddiau, a&#8217;i docio\/torri o dan y nod coesyn isaf er mwyn osgoi ailflodeuo.\u00a0 Gafael yn gadarn a thynnu i fyny i osgoi torri&#8217;r coesyn yn rhy uchel.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid cymryd gofal i osgoi gwasgaru hadau ger d\u0175r, ac ni ddylid eu tynnu unwaith y bydd yr hadau&#8217;n aeddfed.\u00a0 Yr amser delfrydol i gael gwared ar ffromlys chwarennog yw bob 3-6 wythnos o fis Mai-Gorffennaf, yn enwedig yn ystod mis Mehefin, a dylid monitro&#8217;r ardal ar gyfer aildyfiant am o leiaf 3 blynedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch fynediad clir a diogel i safleoedd; osgowch sathru ar blanhigion brodorol neu darfu ar adar sy&#8217;n nythu ar y ddaear i&#8217;w cyrraedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylid pentyrru coesau planhigion wedi&#8217;u tynnu a&#8217;u gadael i gompostio mewn un man.\u00a0 Ni ellir gwaredu ffromlys chwarennog mewn biniau gwastraff gwyrdd neu gompostio fel arfer. Rhaid defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig os oes angen cymryd ffromlys chwarennog marw o&#8217;r safle.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylid dilyn protocol bioddiogelwch Cyfarpar Diogelu Personol i atal hadau rhag lledaenu rhwng safleoedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Cael caniat\u00e2d tirfeddiannwr cyn casglu balsam ar dir preifat.<\/li>\n\n\n\n<li>Hyfforddwch wirfoddolwyr ar adnabod rhywogaethau i atal planhigion brodorol rhag cael eu tynnu ar gam.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Er mwyn ei ddileu&#8217;n llwyr o&#8217;r ardal, rhaid i waredu ar ffromlys chwarennog gynnwys y dalgylch cyfan er mwyn atal ail-wladychu i fyny&#8217;r afon. Mae hefyd yn bwysig ailadrodd ymdrechion gwaredu am o leiaf dair blynedd yn olynol gan fod hadau yn hyfyw am 2 flynedd<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dibyniaeth y dull hwn ar waredu rheolaidd ac ailadroddus yn golygu ei fod yn aml yn dibynnu&#8217;n fawr ar grwpiau gwirfoddol wedi&#8217;u trefnu ac addysg, ac mae cadw cefnogaeth y cyhoedd yn agwedd allweddol ar reoli ffromlys chwarennog. Mae&#8217;n bwysig sicrhau bod gan gymunedau&#8217;r sgiliau a&#8217;r wybodaeth i adnabod ffromlys chwarennog, gwaredu ar blanhigion yn ddiogel, a chofnodi lleoliadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir cofnodi ffromlys chwarennog ar yr <a href=\"https:\/\/innsmapper.org\/home\"><strong>INNS Mapper (Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol)<\/strong><\/a> neu gan ddefnyddio system recordio ar-lein <a href=\"http:\/\/www.sewbrec.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>SEWBReC<\/strong><\/a>, sef <a href=\"http:\/\/www.sewbrec.org.uk\/submit-records-sewbrecord.page\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>SEWBReCORD<\/strong><\/a>, neu <a href=\"http:\/\/www.sewbrec.org.uk\/app.page\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Ap<\/strong><\/a> LERC Cymru ar eich dyfais symudol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Tudalen we Ffromlys Chwarennog Beth yw ffromlys chwarennog? Ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera) yw rhywogaeth o blanhigion goresgynnol a gyflwynwyd i&#8217;r DU o orllewin Mynyddoedd Himalaia ym 1839. Mae rhywogaethau goresgynnol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":34572,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-36611","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/36611","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=36611"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/36611\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36617,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/36611\/revisions\/36617"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/34572"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=36611"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}