{"id":30467,"date":"2024-09-11T13:50:54","date_gmt":"2024-09-11T12:50:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/outdoor\/green-infrastructure\/mill-common-restoration-project\/"},"modified":"2026-01-27T12:17:30","modified_gmt":"2026-01-27T12:17:30","slug":"mill-common-restoration-project","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/outdoor\/green-infrastructure\/mill-common-restoration-project\/","title":{"rendered":"Mill Common Restoration Project"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Prosiect Adfer Comin y Felin<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Diweddariad Prosiect \u2013 Gwaith Coetir<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith coetir a llwybrau yn llwyddiannus yn 2025, gan gynnwys cael gwared ar goed ynn yr effeithiwyd arnynt gan glefyd (Chalara) coed ynn a theneuo dethol i gefnogi coetir iachach a mwy gwydn. Ar \u00f4l torri\u2019r coed ac agor y canopi, mae&#8217;r coetir eisoes wedi dechrau adfywio a bywyd newydd yn dod i&#8217;r amlwg.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaeth tywydd gwlyb yn ystod ail gam y gwaith coetir yn Hydref 2025 yr amodau&#8217;n heriol, sydd wedi arafu cynnydd ar gam nesaf y gwaith ac wedi arwain at fwd a malurion. Cliriwyd hyn o&#8217;r hen lwybr ag arwyneb, ac mae&#8217;r rhigolau wedi&#8217;u lefelu.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfarwyddwyd contractwyr i ddychwelyd ddechrau mis Ionawr i gwblhau&#8217;r gwaith tacluso sy&#8217;n weddill a bydd ail-wynebu llwybrau yn dilyn pan fydd yr amodau&#8217;n gwella.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynnydd yn parhau ar draws y prosiect ehangach. Mae dylunio paneli dehongli newydd ar y gweill ac mae gweithgareddau cymunedol fel casglu sbwriel a phlannu coed yn digwydd yn rheolaidd fel rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau ar gyfer dechrau 2026.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yna ddiweddariadau pellach yn cael eu darparu wrth i&#8217;r cam nesaf fynd rhagddo.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p>Disgwylir i gam cyntaf y gwaith ddechrau ar 3 Chwefror gyda\u2019r contractwyr, ATM Cyf, yn cwympo coed Ynn y mae Clefyd Coed Ynn wedi effeithio arnynt ac yn gwneud peth gwaith teneuo coed i wella iechyd a gwytnwch coed eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfyngir mynediad i rannau o\u2019r goetir er mwyn diogelu\u2019r cyhoedd rhag niwed yn ystod y gwaith. Gosodir arwyddion a rhwystrau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gwelliannau i\u2019r llwybrau a chamau yn dilyn yn yr haf gyda phlannu coed yn lle coed a gollwyd a chynyddu ystod y rhywogaethau coed yn digwydd yn yr hydref a\u2019r gaeaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Darllenwch ein F.A.Q am fwy o wybodaeth <strong><a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Mill-Common-F.A.Q.-Cym-Jan-26.pdf\">YMA<\/a><\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Comin y Felin, coetir annwyl yng nghanol Magwyr a Gwndy, ar fin mynd trwy brosiect adfer trawsnewidiol gyda&#8217;r nod o wella&#8217;i iechyd ecolegol, hygyrchedd a gwerth cymunedol. <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y fenter hon, a gefnogir gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir (neu&#8217;r TWIG) a weinyddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru, yn gwasanaethu fel safle blaenllaw ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru ac mae&#8217;n addo adnewyddu&#8217;r man gwyrdd hanfodol hwn ar gyfer cenedlaethau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Comin y Felin yn gweithredu fel coridor gwyrdd hanfodol i&#8217;r gymuned leol. Fodd bynnag, mae&#8217;n wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys Clefyd Coed Ynn helaeth, mae wedi&#8217;i gorlenwi \u00e2 choed hynafol, a llwybrau a stepiau sydd wedi dirywio<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:25px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-video\"><video height=\"2160\" style=\"aspect-ratio: 3840 \/ 2160;\" width=\"3840\" controls src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Mill-Common00000104-1.mp4\"><\/video><\/figure>\n\n\n\n<p>Bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymgymryd \u00e2 rheolaeth coetir i gael gwared ar goed ynn heintiedig a chlystyrau trwchus o goed sy\u2019n gorlenwi\u2019r canopi ac yn atal golau&#8217;r haul rhag cyrraedd yr isdyfiant. Er y gallai edrych fel newid dramatig i ddechrau, mae nifer y coed ynn yr effeithir arnynt yn peri risg diogelwch a bydd hyn yn adfywio&#8217;r coetir ac yn sicrhau ei iechyd ymhell i&#8217;r dyfodol. Bydd y coetir yn adfer yn gyflym ac yn cael ei ailblannu gyda chymysgedd amrywiol o goed llydanddail brodorol.&nbsp;<br><br>Byddwn hefyd yn gallu adfer yr olygfan hanesyddol sy&#8217;n edrych allan dros Wastadeddau Gwent a nifer o goed hynafol, sydd wedi sefyll ar y safle ers dros 100 mlynedd yn cael eu diogelu drwy reolaeth coedyddiaeth sensitif. Byddwn yn helpu i ddiogelu&#8217;r ardaloedd o amgylch coed hynafol ac adfywio llystyfiant trwy docio llwyni meirw o&#8217;u cwmpas i&#8217;w hamddiffyn rhag effeithiau negyddol nifer yr ymwelwyr a chywasgiad.&nbsp;<br><br>Gallwch ddisgwyl gweld y prif lwybr a&#8217;r stepiau trwy&#8217;r safle&#8217;n cael eu hail-wynebu er mwyn cael gwell hygyrchedd i gerddwyr a llwybr mwy diogel i&#8217;r ysgol ar gyfer plant lleol. Bydd meinciau, arwyddion a llwybr cerfluniau newydd a ddyluniwyd gennych chi, y gymuned leol, yn dod \u00e2&#8217;r coedwigoedd yn fyw.<br><br>Trwy gydol y prosiect a thu hwnt bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli cymunedol i&#8217;r gymuned leol ac ysgolion, gan alw ar gariadon natur i helpu adfer y coedydd. Byddwn yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau gwyrdd, rheoli coetiroedd a gwella cynefinoedd, ac yn eich helpu i ddod yn stiwardiaid y safle i&#8217;r dyfodol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw manteision y prosiect? <\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Rheoli coetir<\/strong> &#8211; mae&#8217;r rhan fwyaf o Gomin y Felin yn goetir newydd, fe&#8217;i defnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer anifeiliaid pori. Pan ddaeth pori i ben, tyfodd coed yn gyflym a sefydlu&#8217;r coedydd a welwn heddiw.&nbsp; Fodd bynnag, mae hyn wedi arwain at goetir dwys, gorlawn gydag ychydig iawn o olau yn gallu cyrraedd y ddaear, sy&#8217;n bwysig ar gyfer twf coed newydd a fflora&#8217;r ddaear. Mae gan goetir iach amrywiaeth o oedrannau a rhywogaethau coed ac mae ganddo ganopi mwy agored.&nbsp; Bydd cwympo rhai o&#8217;r coed yn helpu i greu gwell amrywiaeth yn y goedwig ac yn helpu&#8217;r llystyfiant daear i adfywio.&nbsp; Gallwn hefyd greu ac adfer rhodfeydd a llennyrch drwy&#8217;r coetir i gynyddu ardaloedd blodau gwyllt a darparu priffyrdd gwenyn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Clefyd Coed Ynn<\/strong> &#8211; yn anffodus, mae&#8217;r coedydd yn cael eu heffeithio&#8217;n ddifrifol gan glefyd coed ynn, clefyd ffwngaidd sy&#8217;n lladd coed ynn yn araf yn y pen draw, gan beri i&#8217;r canghennau marw, neu i ganghennau meirw ddod yn frau a chwympo. Mae hyn yn peri risg diogelwch i breswylwyr sy&#8217;n defnyddio&#8217;r safle.&nbsp; Oherwydd diffyg amrywiaeth coed ar Gomin y Felin, bydd angen torri ardaloedd mawr o goed yr effeithir arnynt. Bydd hyn yn arwain at newid sylweddol yn y coetir a gall edrych yn ddinistriol i ddechrau, fodd bynnag, bydd yn agor y canopi i olau&#8217;r haul a bydd glasbrennau sy&#8217;n aros islaw yn cael cyfle i dyfu. Byddwn hefyd yn ailblannu&#8217;r ardaloedd hyn gyda chymysgedd mwy amrywiol o rywogaethau coed.&nbsp; Cyn bo hir bydd yr ardaloedd lle mae&#8217;r coed ynn wedi&#8217;u heffeithio yn iachach ac yn llawn o goed newydd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gofal coed hynafol<\/strong> \u2013 mae rhai o&#8217;r coed yng Nghomin y Felin, gan gynnwys rhai derw, yn hen iawn, ar \u00f4l tyfu ar y bryn am flynyddoedd lawer cyn i&#8217;r ardal gyfagos gael ei datblygu ar gyfer tai. Bydd yr hen goed hynafol hyn wedi tyfu yn yr awyr agored, ac felly wedi tyfu\u2019n lletach yn hytrach nag yn dalach. Wrth i&#8217;r coed egino o&#8217;u cwmpas, mae&#8217;r dwysedd coed wedi creu ardal orlawn. Byddwn yn lleihau coed sy&#8217;n cystadlu a thocio llwyni o amgylch gwaelod y coed i&#8217;w hamddiffyn rhag cywasgiad ac ymyrraeth.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Llwyni meiwr<\/strong> &#8211;&nbsp; mae cywasgiad a nifer uchel o ymwelwyr yn cael effaith negyddol sylweddol ar y coed, oherwydd ei fod yn agos at ardaloedd preswyl. Er ein bod am i bobl archwilio a mwynhau Comin y Felin, drwy greu rhwystrau bach o amgylch ardaloedd sensitif sydd \u00e2 llwyni meirw, gallwn helpu i amddiffyn adfywio a phlannu coed.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Golygfan hanesyddol<\/strong> &#8211; gyda&#8217;i olygfan unigryw ym Magwyr a Gwndy, roedd yn bosibl unwaith edrych allan o Gomin y Felin dros dirwedd Gwastadeddau Gwent ac Aber Afon Hafren. Wrth i&#8217;r coed dyfu, mae&#8217;r olygfan wedi cael ei rwystro. Byddwn yn gallu adfer y golygfannau yn ystod ein gwaith rheoli coetiroedd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Llwybrau, stepiau, meinciau ac arwyddion<\/strong> &#8211;&nbsp; mae llawer o&#8217;r isadeiledd h\u0177n ar y safle wedi dirywio dros amser neu wedi ei golli. Byddwn yn ail-wynebu&#8217;r prif lwybr ar ran uchaf y coedydd, sydd wedi gordyfu ac yn fwdlyd yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd stepiau trwy&#8217;r safle yn cael eu hail-wynebu hefyd, a bydd rheiliau llaw wedi&#8217;u gosod lle maent ar goll. Bydd meinciau ac arwyddion yn cael eu hamnewid a&#8217;u gwella ledled Comin y Felin.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwirfoddoli a&#8217;r llwybr cerfluniau<\/strong> &#8211; bydd prosiect Comin y Felin yn gyfle i chi ddod yn rhan o gynllun natur cymunedol lle gallwch ddysgu sgiliau newydd a helpu i ddiogelu man gwyrdd hanfodol ar gyfer y dyfodol &#8211; byddwch hefyd yn cael cyfle i helpu i greu llwybr cerfluniau newydd ar gyfer y goedwig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Eisiau cymryd rhan?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Cofrestrwch eich diddordeb mewn gwirfoddoli <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/pages\/responsepage.aspx?id=eQBNLCzFs0uzytjq8ba31X7wwTl2hxhAgDNFKO_3IKJUMk5aRTQ4VDFSWUI4WlBZOUtKT0o1UlNFRC4u&amp;route=shorturl\" title=\"\"><strong>YMA<\/strong><\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Diweddariadau Prosiect<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Adfer Comin y Felin<br>Diweddariad Rhagfyr 2024 <a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Mill-Common-Update-Dec-24.pdf\" title=\"\"><strong>YMA<\/strong><\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong><strong>Cysylltwch \u00e2 ni:<\/strong> <\/strong>LocalNature@Monmouthshire.gov.uk<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>Gwnaed Grid Gwyrdd Gwent yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:15px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Heritage-Fund_Welsh-Government_Lottery_Black.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-32213\" style=\"width:620px;height:auto\"\/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" data-id=\"30238\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0287-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30238\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0287-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0287-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0287-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0287-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0287-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0287-1568x1045.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" data-id=\"30242\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0288-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30242\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0288-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0288-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0288-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0288-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0288-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0288-1568x1045.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" data-id=\"30240\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0273-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30240\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0273-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0273-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0273-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0273-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0273-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0273-1568x1045.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-2 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" data-id=\"30232\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0266-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30232\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0266-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0266-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0266-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0266-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0266-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0266-1568x1045.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" data-id=\"30234\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0295-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30234\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0295-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0295-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0295-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0295-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0295-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0295-1568x1045.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" data-id=\"30236\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0296-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30236\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0296-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0296-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0296-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0296-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0296-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/DSC_0296-1568x1045.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Prosiect Adfer Comin y Felin Diweddariad Prosiect \u2013 Gwaith Coetir Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith coetir a llwybrau yn llwyddiannus yn 2025, gan gynnwys cael gwared ar goed ynn yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":2558,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-30467","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/30467","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30467"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/30467\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2558"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30467"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}