{"id":2649,"date":"2019-10-15T10:40:07","date_gmt":"2019-10-15T09:40:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?page_id=2649"},"modified":"2025-02-14T16:22:06","modified_gmt":"2025-02-14T16:22:06","slug":"abergavenny-museum-castle","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/heritage\/abergavenny-museum-castle\/","title":{"rendered":"Abergavenny Museum &#038; Castle"},"content":{"rendered":"\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Castell ac Amgueddfa\u2019r Fenni<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Amgueddfa\u2019r Fenni yn gartref i gasgliad bendigedig o arteffactau, arddangosfeydd parhaol ac arddangosiadau dros dro, yn manylu hanes y dref a\u2019r ardal fwy eang.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r amgueddfa, a sefydlwyd ar yr 2<sup>il<\/sup>&nbsp;o Orffennaf 1959, wedi\u2019i leoli mewn adeilad Rhaglywiaeth, a adeiladwyd ar ben mwnt Normanaidd o fewn tir Castell Y Fenni.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw, mae\u2019r cyfuniad o amgueddfa fendigedig a chastell darluniadwy&#8217;n cynrychioli atyniad gwych i&#8217;r rheini sy&#8217;n dymuno dysgu mwy am yr ardal, archwilio tir y castell, neu ddod o hyd i fan gwych am bicnic.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae arddangosfeydd y castell yn adrodd stori\u2019r dref fasnach hanesyddol hon o gynhanes hyd heddiw.&nbsp;Mae&#8217;r arddangosfeydd ar nifer o lefelau gwahanol, a gydag ychydig o gymorth mae\u2019r mwyafrif o fannau yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o wybodaeth:<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<div ><style>#sp-ea-17356 .spcollapsing { height: 0; overflow: hidden; transition-property: height;transition-duration: 300ms;}#sp-ea-17356.sp-easy-accordion>.sp-ea-single {margin-bottom: 10px; border: 1px solid #e2e2e2; }#sp-ea-17356.sp-easy-accordion>.sp-ea-single>.ea-header a {color: #ffffff;}#sp-ea-17356.sp-easy-accordion>.sp-ea-single>.sp-collapse>.ea-body {background: #fff; color: #444;}#sp-ea-17356.sp-easy-accordion>.sp-ea-single {background: #e83c4e;}#sp-ea-17356.sp-easy-accordion>.sp-ea-single>.ea-header a .ea-expand-icon { float: left; color: #a91c53;font-size: 16px;}<\/style><div id=\"sp_easy_accordion-1698856508\"><div id=\"sp-ea-17356\" class=\"sp-ea-one sp-easy-accordion\" data-ea-active=\"ea-click\" data-ea-mode=\"vertical\" data-preloader=\"\" data-scroll-active-item=\"\" data-offset-to-scroll=\"0\"><div class=\"ea-card sp-ea-single\"><h3 class=\"ea-header\"><a class=\"collapsed\" id=\"ea-header-173560\" role=\"button\" data-sptoggle=\"spcollapse\" data-sptarget=\"#collapse173560\" aria-controls=\"collapse173560\" href=\"#\" aria-expanded=\"false\" tabindex=\"0\"><i aria-hidden=\"true\" role=\"presentation\" class=\"ea-expand-icon eap-icon-ea-expand-plus\"><\/i> Hanes y castell a&#8217;r amgueddfa <\/a><\/h3><div class=\"sp-collapse spcollapse spcollapse\" id=\"collapse173560\" data-parent=\"#sp-ea-17356\" role=\"region\" aria-labelledby=\"ea-header-173560\"> <div class=\"ea-body\"><p>Credir yn gyffredinol fod y mwnt yng Nghastell y Fenni wedi&#8217;i adeiladu gan yr Arglwydd Normanaidd Hamelin de Ballon yn 1087 OC. Byddai&#8217;r t\u0175r gwreiddiol, a adeiladwyd ar ben y mwnt, wedi bod yn adeiladwaith pren, ac o dan y mwnt roedd y beili, sef cwrt sy&#8217;n cynnwys yr adeiladau allanol a&#8217;r stablau.<\/p><p>Mae&#8217;n debyg mai adeilad pren oedd y Neuadd Fawr gyntaf yn y castell. O fewn y Neuadd hon, ar ddydd Nadolig 1175, llofruddiodd Arglwydd Normanaidd y Fenni, William de Braose, ei wrthwynebydd Gymreig hirsefydlog, Seisyll ap Dyfnwal.<\/p><p>Ym 1182, ymosodwyd ar y castell gan berthnasau&#8217;r Cymry a gafodd eu llofruddio. Cipiwyd y rhan fwyaf o ddynion William, ond nid oedd ef gartref.<\/p><p>Dinistriwyd y castell ym 1233 gan Richard Marshal, Iarll Penfro a&#8217;r Tywysogion Cymreig, ac wedi hynny, ailadeiladwyd y gorthwr \u00e2 charreg nid pren.<\/p><p>Y waliau a welwch heddiw yw gweddillion Neuadd garreg a adeiladwyd rhwng 1233 a 1295.<\/p><p>Roedd cyfadeilad y t\u0175r yn cynnwys dau d\u0175r, un amlochrog a&#8217;r llall yn grwn. Mae tystiolaeth yn awgrymu i&#8217;r tyrau hyn gael eu hadeiladu ym 1295-1314 ar yr un pryd \u00e2 muriau&#8217;r dref, gan ddefnyddio grantiau murdreth &#8211; math o dreth a godwyd gan yr Arglwydd lleol.<\/p><p>Porthdy rhagfur nodweddiadol yw&#8217;r porthdy. Pan adeiladwyd wal y castell am y tro cyntaf, tua diwedd y 13eg i ddechrau&#8217;r 14eg ganrif, roedd y porth yn agoriad syml yn y llenfur.<\/p><p>Mae nodweddion drws anarferol yn awgrymu i&#8217;r porthdy gael ei ychwanegu yn gynnar yn y 15fed Ganrif. Bryd hynny roedd rhyfel annibyniaeth olaf Cymru yn cael ei hymladd gan Owain Glynd\u0175r.<\/p><p>Dinistriwyd y gorthwr ynghyd \u00e2&#8217;r rhan fwyaf o adeiladau eraill y castell, yn y Rhyfel Cartref, rhwng 1645 a 1646. Ym 1819, adeiladwyd yr adeilad presennol \u2013 sef yr Amgueddfa bellach \u2013 ar ben y mwnt ar gyfer Ardalydd y Fenni.<\/p><h4><strong>Hanes Amgueddfa&#8217;r Fenni<\/strong><\/h4><p>Sefydlwyd yr Amgueddfa ar yr 2il o Orffennaf 1959. Mae&#8217;r syniad am amgueddfa yn dyddio&#8217;n \u00f4l mor gynnar \u00e2 1903, pan gafodd ei drafod gan Bwyllgor Llyfrgell Am Ddim y Fenni. Yn y cyfarfod hwn, rhoddwyd caniat\u00e2d i&#8217;r llyfrgell ddechrau casglu gwrthrychau.<\/p><p>Parhaodd y casgliadau hyn yn y llyfrgell tan y 1940au pan ddywedwyd iddynt gael eu gwaredu. Unwaith eto, yn sgil dymchwel yr adeiladau hanesyddol yn Tudor Street a Castle Street yn ystod y 1950au, daeth pobl yn ymwybodol o&#8217;r angen am amgueddfa. Fe wnaeth Alfred Jackson annerch y Clwb Rotari ar 22ain Hydref 1957 a ffurfiwyd pwyllgor.<\/p><\/div><\/div><\/div><div class=\"ea-card sp-ea-single\"><h3 class=\"ea-header\"><a class=\"collapsed\" id=\"ea-header-173561\" role=\"button\" data-sptoggle=\"spcollapse\" data-sptarget=\"#collapse173561\" aria-controls=\"collapse173561\" href=\"#\" aria-expanded=\"false\" tabindex=\"0\"><i aria-hidden=\"true\" role=\"presentation\" class=\"ea-expand-icon eap-icon-ea-expand-plus\"><\/i> Gwybodaeth i Ymwelwyr<\/a><\/h3><div class=\"sp-collapse spcollapse spcollapse\" id=\"collapse173561\" data-parent=\"#sp-ea-17356\" role=\"region\" aria-labelledby=\"ea-header-173561\"> <div class=\"ea-body\"><p>Mae staff Castell ac Amgueddfa\u2019r Fenni yn hapus i gynorthwyo gydag unrhyw un o\u2019ch ymholiadau a gellir cysylltu \u00e2 nhw drwy\u2019r post, dros y ff\u00f4n neu dros e-bost.<\/p><p><strong>Amgueddfa a Chastell y Fenni<\/strong><\/p><p><strong> Stryd y Castell Y Fenni <\/strong><\/p><p><strong>Sir Fynwy <\/strong><\/p><p><strong>NP7 5EE<\/strong><\/p><p><strong>Rhif ff\u00f4n:<\/strong> 01873 854 282<\/p><p><strong>E-bost:<\/strong> <a href=\"mailto:abergavennymuseum@monmouthshire.gov.uk\">abergavennymuseum@monmouthshire.gov.uk<\/a><\/p><p><strong>Cost:<\/strong> Mynediad am ddim i bawb (codir t\u00e2l mewn rhai digwyddiadau arbennig).<\/p><p><strong>Oriau Agor<\/strong><\/p><p>Dydd Llun \u2013 AR GAU<br \/>Dydd Mawrth \u2013 11:00am \u2013 4:00pm<br \/>Dydd Mercher \u2013 AR GAU<br \/>Dydd Iau \u2013 11:00am \u2013 4:00pm<br \/>Dydd Gwener \u2013 11:00am \u2013 4:00pm<br \/>Ddydd Sadwrn \u2013 11:00am \u2013 4:00pm<br \/>Dydd Sul \u2013 11:00am \u2013 4:00pm<\/p><p><strong>Gwybodaeth am drafnidiaeth<\/strong><br \/>Yn anffodus, ni all coetsys gael mynediad i\u2019r safle. Mae mannau parcio amgen ar gael ym maes parcio Stryd y Castell neu\u2019r orsaf fysus.<\/p><p><strong>Gwybodaeth Hygyrchedd<\/strong><br \/>Fel gyda llawer o adeiladau hanesyddol, mae\u2019n anodd cael mynediad i rai mannau ynddynt. Argymhellir bod o leiaf un person abl ar gael i gynorthwyo. Mae tir y castell yn anwastad, ond mae ramp yn arwain at yr amgueddfa, ond mae\u2019n eithaf serth. Unwaith y byddwch wrth y drws ffrynt mae\u2019n bosibl mynd i Oriel y Gorthwr lle mae ein harddangosfeydd yn cael eu cynnal. Gall staff yr amgueddfa helpu i agor drysau. Mae rhannau eraill o\u2019r amgueddfa\u2019n hygyrch i wahanol raddau drwy ddrysau allanol. Bydd angen i geidwad amgueddfa helpu felly os gwelwch yn dda, byddwch yn amyneddgar os yw\u2019r amgueddfa\u2019n brysur. Mae croeso mawr i g\u0175n tywys. Rydym yn gweithio tuag at ddarparu dulliau amgen o weld y casgliadau ar gyfer yr ymwelwyr hynny nad ydynt yn gallu eu cyrraedd yn gorfforol. Cysylltwch \u00e2 ni os hoffech drafod ymhellach unrhyw anghenion mynediad.<\/p><\/div><\/div><\/div><div class=\"ea-card sp-ea-single\"><h3 class=\"ea-header\"><a class=\"collapsed\" id=\"ea-header-173562\" role=\"button\" data-sptoggle=\"spcollapse\" data-sptarget=\"#collapse173562\" aria-controls=\"collapse173562\" href=\"#\" aria-expanded=\"false\" tabindex=\"0\"><i aria-hidden=\"true\" role=\"presentation\" class=\"ea-expand-icon eap-icon-ea-expand-plus\"><\/i> Arddangosfeydd Parhaol<\/a><\/h3><div class=\"sp-collapse spcollapse spcollapse\" id=\"collapse173562\" data-parent=\"#sp-ea-17356\" role=\"region\" aria-labelledby=\"ea-header-173562\"> <div class=\"ea-body\"><p>Mae Amgueddfa\u2019r Fenni yn cynnal arddangosfeydd rheolaidd ar y cyd \u00e2\u2019r pum oriel arddangos barhaol:<\/p><h4><strong>Oriel y Gorthwr<\/strong><\/h4><p>Yn \u2018Oriel y Gorthwr\u2019 mae arddangosfeydd sy\u2019n ymwneud \u00e2 hanes yr ardal. Yn eu plith mae teclynnau cynhanesyddol, arfwisg Rufeinig, ratl baban o\u2019r ail ganrif ar bymtheg, arteffactau yn ymwneud \u00e2 phersonoliaethau Fictoraidd y Tad Ignatius ac Arglwyddes Llanofer a\u2019r bergi enwog Whiskey.<\/p><h4><strong>Lloches Cyrch Awyr<\/strong><\/h4><p>Yn islawr yr Amgueddfa, mae gennym ail-gread o loches cyrch awyr yr Ail Ryfel Byd.<\/p><h4><strong>Siop y Sadler<\/strong><\/h4><p>Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y Fenni yn gartref i wyth o siopau sadler. Yn yr Amgueddfa, mae gennym arddangosfa o sut y byddai un nodweddiadol wedi edrych.<\/p><h4><strong>Y Gegin Gymreig<\/strong><\/h4><p>Mae\u2019r Gegin Gymreig yn dyddio o 1960. Roedd yn un o\u2019r arddangosiadau cynharaf ac mae\u2019n dal mor boblogaidd ag erioed.<\/p><p>Mae yn null cegin ffermdy Fictoraidd ac yn ymgorffori lle t\u00e2n, a achubwyd o ddymchweliadau Stryd y Tuduriaid. Diweddarwyd yr arddangosfa yn 2014 gan ddisgyblion o ysgol gynradd leol a helpodd i ailgynllunio\u2019r gofod a dyfeisio amrywiaeth o weithgareddau ymarferol i chi roi cynnig arnynt.<\/p><h4><strong>Siop Groser Basil Jones<\/strong><\/h4><p>Ein harddangosfa fwyaf poblogaidd yw \u2018Siop Basil Jones\u2019. Yn 1994, caffaelodd yr Amgueddfa nifer fawr o stoc o groser lleol adnabyddus \u2013 Basil Jones.<\/p><p>Roedd hyn yn cynnwys pecynnu a oedd yn dyddio o mor gynnar \u00e2\u2019r 1930au. Bu\u2019n rhaid i\u2019n cadwraethwyr dynnu rhai o\u2019r stoc wreiddiol megis bisgedi, er mwyn sicrhau na wnaethon ni greu \u2018problem pl\u00e2u\u2019! Yna cafodd y siop ei hail-greu o fewn yr Amgueddfa. Yn aml gall ein hymwelwyr gofio\u2019r siop wreiddiol ac mae gennym \u2018lyfr atgofion\u2019 lle gallant gofnodi eu hatgofion.<\/p><\/div><\/div><\/div><div class=\"ea-card sp-ea-single\"><h3 class=\"ea-header\"><a class=\"collapsed\" id=\"ea-header-173563\" role=\"button\" data-sptoggle=\"spcollapse\" data-sptarget=\"#collapse173563\" aria-controls=\"collapse173563\" href=\"#\" aria-expanded=\"false\" tabindex=\"0\"><i aria-hidden=\"true\" role=\"presentation\" class=\"ea-expand-icon eap-icon-ea-expand-plus\"><\/i> Ysgolion ac Addysg<\/a><\/h3><div class=\"sp-collapse spcollapse spcollapse\" id=\"collapse173563\" data-parent=\"#sp-ea-17356\" role=\"region\" aria-labelledby=\"ea-header-173563\"> <div class=\"ea-body\"><p>Mae Amgueddfa a Chastell y Fenni yn lleoliad delfrydol ar gyfer ymweliad addysgol.\u00a0 Rydym yn croesawu ysgolion sy&#8217;n dymuno dod \u00e2 disgyblion ar gyfer ymweliad cyffredinol i edrych ar arddangosfeydd y castell a\/neu&#8217;r amgueddfa. Mae mynediad am ddim. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn bwriadu ymweld, fel y gallwn roi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau a allai effeithio ar eich ymweliad.<\/p><p>Rydym yn ymwybodol o&#8217;r pwysau ar gyllidebau ysgolion ac am y rheswm hwn, rydym wedi llunio gweithdai \u2018Darganfod y Castell\u2019, gweithdy hunan-dywys i ysgolion, sy&#8217;n canolbwyntio ar hanes y Castell trwy ddysgu yn yr awyr agored.<\/p><p>Rydym hefyd yn cynnal rhaglen lwyddiannus o weithdai ffurfiol i ysgolion sydd wedi&#8217;u harchebu o flaen llaw, a fynychir yn dda gan ysgolion o&#8217;r ardal gyfagos a thu hwnt. Mae&#8217;r holl sesiynau wedi&#8217;u cynllunio gyda&#8217;r cwricwlwm mewn golwg er mwyn caniat\u00e1u i&#8217;r plant gael rhagor o wybodaeth am faes pwnc penodol, a phrofi amgylchedd unigryw Amgueddfa a Chastell y Fenni ar yr un pryd.\u00a0 Codir t\u00e2l am y gweithdai hyn.<\/p><\/div><\/div><\/div><div class=\"ea-card sp-ea-single\"><h3 class=\"ea-header\"><a class=\"collapsed\" id=\"ea-header-173564\" role=\"button\" data-sptoggle=\"spcollapse\" data-sptarget=\"#collapse173564\" aria-controls=\"collapse173564\" href=\"#\" aria-expanded=\"false\" tabindex=\"0\"><i aria-hidden=\"true\" role=\"presentation\" class=\"ea-expand-icon eap-icon-ea-expand-plus\"><\/i> Atyniadau Lleol<\/a><\/h3><div class=\"sp-collapse spcollapse spcollapse\" id=\"collapse173564\" data-parent=\"#sp-ea-17356\" role=\"region\" aria-labelledby=\"ea-header-173564\"> <div class=\"ea-body\"><p>Mae llawer o bethau i\u2019w gweld a\u2019u gwneud yn y Fenni a\u2019r cyffiniau, gan gynnwys:<\/p><h4><strong>Eglwys Priordy\u2019r Santes Fair<\/strong><\/h4><p>Mae\u2019r Eglwys yn un o\u2019r Eglwysi Plwyf mwyaf a gorau yng Nghymru. Yn hanesyddol, cyfeirir ati fel \u201cAbaty Westminster Cymru\u201d ac mae\u2019n gartref i gasgliad o henebion ac arteffactau canoloesol hynod arwyddocaol.<\/p><h4><strong>Theatr y Fwrdeistref<\/strong><\/h4><p>Mae Theatr y Fwrdeistref yn lleoliad \u00e2 338 sedd sy\u2019n gartrefol, croesawgar ond eto\u2019n fodern wedi\u2019i lleoli yng nghanol tref ffiniol hardd y Fenni, y porth traddodiadol i Gymru.<\/p><h4><strong>Marchnad y Fenni<\/strong><\/h4><p>Mae\u2019r Fenni\u2019n enwog fel tref farchnad, gyda\u2019r Farchnad Adwerthu Ddydd Mawrth yn adnabyddus iawn. Mae\u2019r farchnad hefyd yn cynnig Marchnadoedd Chwain, Ffeiriau Crefft, Marchnadoedd Ffermwyr a Ffeiriau Hen Bethau a Chasglwyr rheolaidd. Gerddi Linda Vista, Parc Bailey, a Dolydd y Castell hefyd yn dri\u00a0man agored bendigedig o fewn y dref.<\/p><h4><strong>Abaty Llanddewi Nant Hodni<\/strong><\/h4><p>Ymhlith y Mynyddoedd Duon ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr mae Dyffryn Llanddewi Nant Hodni sydd bron \u00e2 bod yn anghysbell. Mae\u2019r Priordy yn dyddio o\u2019r ddeuddegfed ganrif ac roedd Cymuned Awstinaidd yn byw yno.<\/p><h4><strong>Capel y Ffin<\/strong><\/h4><p>Yn agos i Landdewi Nant Hodni mae\u2019r fynachlog a adeiladwyd gan y parch Joseph Leycester Lyne, a adnabyddir fel y Tad Ignatius, a geisiodd gychwyn bywyd mynachaidd yn Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach roedd yn gartref i Eric Gill, cerflunydd a theipograffydd enwog.<\/p><p>Am ragor o wybodaeth i dwristiaid, ewch i <strong><a href=\"https:\/\/cy.visitmonmouthshire.com\/\">www.visitmonmouthshire.com<\/a><\/strong><\/p><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div>\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity\"\/>\n\n\n            <div class=\"flex flex-wrap -mx-2 short-content\">\n                <br \/>\n            <div class=\"w-full md:w-1\/3 px-2\">\n            <\/p>\n<h1 style=\"text-align: left;\">Amserau Agor<\/h1>\n<p style=\"text-align: left;\"><b>Dydd Llun<\/b> \u2013 AR GAU <\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><b>Dydd Mawrth<\/b> \u2013 11.00 am &#8211; 4:00 pm<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><b>Dydd Mercher<\/b> \u2013 AR GAU <\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><b>Dydd Iau<\/b> \u2013 11.00 am &#8211; 4:00 pm<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><b>Dydd Gwener<\/b> \u2013 11.00 am &#8211; 4:00 pm<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><b>Dydd Sadwrn<\/b> \u2013 11.00 am &#8211; 4:00 pm<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><b>Dydd Sul<\/b> \u2013 11.00 am &#8211; 4:00 pm<\/p>\n<\/p>\n<p>            <\/div>\n        <br \/>\n            <div class=\"w-full md:w-1\/3 px-2\">\n            <\/p>\n<h1>Cyfleusterau<\/h1>\n<p>MYNEDIAD RHAD AC AM DDIM<br \/>\nParcio Cyfagos: Maes Parcio Stryd y Castell, y Fenni, NP7 5EE.<br \/>\nWiFi<br \/>\nLluniaeth<br \/>\n            <\/div>\n        <br \/>\n            <div class=\"w-full md:w-1\/3 px-2\">\n            <\/p>\n<h1 class=\"p1\">Cysylltwch \u00e2 Ni<\/h1>\n<p class=\"p2\">Stryd y Castell,<\/p>\n<p class=\"p2\">Y Fenni,<\/p>\n<p class=\"p2\">NP7 6EE<\/p>\n<p class=\"p2\"><strong>Ff:<\/strong> 01873 854282<\/p>\n<p class=\"p2\"><strong>E:<\/strong><a href=\"mailto:abergavennymuseum@monmouthshire.gov.uk\">cliciwch yma<\/a><\/p>\n<p>            <\/div>\n        <br \/>\n            <\/div>\n        \n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure><iframe src=\"https:\/\/www.google.com\/maps\/embed?pb=!1m14!1m8!1m3!1d9864.953458402642!2d-3.017753!3d51.820076!3m2!1i1024!2i768!4f13.1!3m3!1m2!1s0x0%3A0xda6df84473cf88e6!2sAbergavenny%20Museum!5e0!3m2!1sen!2suk!4v1574076087387!5m2!1sen!2suk\" width=\"924\" height=\"450\" allowfullscreen=\"\"><\/iframe><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Castell ac Amgueddfa\u2019r Fenni Mae Amgueddfa\u2019r Fenni yn gartref i gasgliad bendigedig o arteffactau, arddangosfeydd parhaol ac arddangosiadau dros dro, yn manylu hanes y dref a\u2019r ardal fwy eang. Mae\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":2470,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-2649","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2649","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2649"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2649\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2470"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2649"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}