Chwaraeon a Gweithgareddau MonActive
Datblygu Chwaraeon, Gweithgareddau a Chlybiau
Mae Sir Fynwy yn sir gyda chyfoeth o glybiau a gweithgareddau lleol, canolfannau hamdden sy’n cynnwys amrywiaeth eang o offer, dosbarthiadau a chyfleusterau mynediad i’r anabl, a Thîm Datblygu Chwaraeon, sy’n gweithredu nifer o raglenni a gweithdai.
Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy
Mae Tîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy yn hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol, gwirfoddoli a mentrau chwaraeon, o fewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y gymuned ehangach. Mae llwyddiannau diweddar yn cynnwys:
- Cyfartaledd o 5,000 o oriau gwirfoddoli bob blwyddyn drwy ein llwybrau gwirfoddoli Sport4Life (o 10 oed gyda chyfleoedd gwirfoddoli cymunedol o 13+).
- Mae 85% o’n gweithlu achlysurol cyflogedig presennol wedi dod atom drwy wirfoddoli gyda ni.
- Datblygwyd rhaglen ‘Playmaker’ flaenllaw yn Sir Fynwy, sydd wedi cael ei dyblygu ar draws ardaloedd yng Nghymru a Lloegr.
- 14,000 o bobl wedi mynychu Gemau Sir Fynwy mewn cyfnod o 2 flwyddyn.
- Ymgysylltiad â 73% o bobl ifanc yn ne Sir Fynwy ar y rhestr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drwy ein darpariaeth ddyfodol gadarnhaol.
- Darpariaeth dysgu nofio wedi cyrraedd 95%.
Lawrlwythwch gylchlythyr Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy:
Cylchlythyr Ysgolion Cynradd (Gwanwyn 2019)
Cylchlythyr Ysgolion Cynradd (Hydref 2018)
Am ragor o fanylion, cysylltwch â Thîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy ar 01633 644544 neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk.