Swimming Lessons - Monlife

Swimming Lessons

TMG-Creative_Website-Slider
PTL Campaign (april)_Website Slider-05
Events Calendar Creative-02
Download Our App-02

Gwersi Nofio

Mae nofio yn sgìl bywyd pwysig, a gwersi nofio yw’r ffordd berffaith o sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn hyderus ac yn ddiogel yn y dŵr. Mae ein gwersi nofio yn dilyn rhaglen Dysgu Nofio Cymru ac wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers blynyddoedd lawer. Mae gan bob un o’n hyfforddwyr gymhwyster ASA a gwiriad GDG fel y gallwch fod yn hyderus eich bod chi a’ch teulu mewn dwylo diogel a phrofiadol. I holi, neu i gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma.

Rhaid archebu pob gwers nofio ymlaen llaw a thalu amdanynt drwy Ddebyd Uniongyrchol. Bydd angen cerdyn aelodaeth MonActive cyfredol i archebu gwersi nofio. Does dim opsiwn talu wrth fynd.

SYLWCH: Mae ein rhestr aros am wersi nofio presennol yn cael ei hadolygu ym mis Ionawr 2023

Rydym yn y cyfnod pontio i system rheoli gwersi nofio newydd. Bydd y system newydd yn gweithio’n well ac yn rhoi’r gallu i chi archebu’ch gwersi nofio ar-lein. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau pan fydd ar gael. Yn y cyfamser, rydym yn derbyn plant i ddosbarthiadau dechreuwyr.

Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol yn uniongyrchol i drafod argaeledd. Os oeddech ar y rhestr aros cyn yr adolygiad, byddwn yn dal i gysylltu â chi pan fydd lle ar gael yn y wers nofio o’ch dewis. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gwefan neu drwy gysylltu â’ch canolfan hamdden leol!


Dosbarthiadau Sblash

Mae dosbarthiadau Sblas i blant rhwng 4 mis a 41/2 oed nad ydynt eto mewn addysg gynradd lawn amser. Rydym yn cynnal sesiynau rheolaidd, sy’n dysgu hanfodion nofio mewn ffordd gyfeillgar a hwyliog. Caiff pob sesiwn ei chyflwyno gan weithwyr proffesiynol cymwys. Rhaid i blant sy’n cael eu cofrestru mewn dosbarthiadau Sblash ddod gyda rhiant neu warcheidwad. Bydd yr holl offer angenrheidiol yn cael eu darparu.

Gwersi i Blant

P’unai eich bod yn ddechreuwr llwyr neu eisiau gwella eich techneg, dyw hi byth yn rhu hwyr i ddysgu. Rydym yn cynnig cyrsiau nofio i oedolion o bob gallu. O’r rheiny sy’n nerfus yn y dŵr i’r rheiny sydd eisiau cyngor ar sut i wella eu techneg nofio.

Gwersi i Oedolion

P’un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu rydych am wella eich techneg. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Rydym yn cynnal cyrsiau nofio i oedolion o bob gallu. O’r rhai sy’n nerfus o’r dŵr, drwodd i’r rhai sydd eisiau cyngor ar ddulliau techneg nofio gwell.

Cyrsiau dwys a gwersi un-i-un

Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae Hamdden Mynwy yn darparu cyrsiau dwys, sy’n magu hyder yn y dŵr ac yn gwella techneg.

Rydym hefyd yn cynnig gwersi preifat i blant ac oedolion. Mae’r rhain yn berffaith ar gyfer y rhai sydd angen cymorth unigol.

I wneud ymholiad, neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â’ch canolfan hamdden yn uniongyrchol ar 01633 644800.

This post is also available in: English