Chwarae
Mae chwarae’n rhan bwysig a gwerthfawr o fywydau plant – mae’n difyrru plant yn ogystal â chyfrannu at eu iechyd corfforol ac emosiynol, eu lles a’u datblygiad personol.
Rhaid i’r cyngor asesu dichonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei ardal: a rhaid sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant cyn belled ag sydd yn ymarferol. Mae’r Asesiad Dichonolrwydd Chwarae Sir Fynwy yn manylu ein canfyddiadau allweddol. Mae’r Cynllun Gweithredu Chwarae wedi ei gynnwys yn y ddogfen ac yn amlinellu’r cynllun ar gyfer chwarae yn y dyfodol yn Sir Fynwy.
Mae MonLife yn darparu cyfleoedd chwarae am ddim yn y gymuned ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 11 drwy gyfrwng cynlluniau chwarae’r haf, a hynny mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref a Chymuned a Gwasanaeth Chwarae Torfaen.