Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) Sir Fynwy
Mae Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy’n cynghori Cyngor Sir Fynwy ac eraill ynglŷn â ffyrdd i wella hawliau tramwy a mannau gwyrdd yn Sir Fynwy.
Mae’n cynnwys gwirfoddolwyr sy’n bwriadu cynnig gweledigaeth gytbwys o faterion a blaenoriaethau mynediad sy’n effeithio’r ardal leol neu efallai bydd yn dylanwadu polisi cenedlaethol.
Mae aelodau’n cynrychioli:
- Defnyddwyr hawliau tramwy lleol megis cerddwyr, seiclwyr a marchogwyr.
- Perchnogion a deiliaid y tir
- Grwpiau buddiant cadwraeth, twristiaeth a’r economi gwledig
Cysylltwch â Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy
Ebost: countryside@monmouthshire.gov.uk
Aelodau Cyfredol
- Anne Underwood – Cadeirydd
- Irene Brooke – (Is-gadeirydd) tirfeddiannwr a chynrychiolydd busnes
- Anthea Fairey – Cadeirydd Ffrindiau Dolydd y Castell
- Phil Mundell – defnyddiwr cerdded a chynrychiolydd gwirfoddol
- Mark Storey – cynrychiolydd seiclo, dringo a cherdded
- David Smith – defnyddiwr cerdded a dringo, arweinydd gwirfoddol grŵp cerdded iachus
- Sylvia Fowles – Cynrychiolydd Marchogaeth i’r Anabl, cadwraeth a hanes
Ystyrir ceisiadau aelodaeth ychwanegol ar hyn o bryd gan Gyngor Sir Fynwy
Cyfarfodydd a Chofnodion
Rydym yn cwrdd tua 4 gwaith y flwyddyn mewn amryw o leoliadau yn y sir. Mae cyfarfodydd ar agor i’r cyhoedd.
Mae cofnodion, agendau a dyddiadau’r cyfarfodydd ar gael ar wefan CSF (ewch i)
Ymunwch â Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy
I ymgeisio, cysylltwch ag ysgrifennydd y FfMLl ar countryside@monmouthshire.gov.uk. Mae aelodaeth yn para am uchafswm o dair blynedd ar hyn o bryd. Rhaid bod gwirfoddolwyr yn ymroddedig gyda’r angerdd, yr adnabyddiaeth a’r sgiliau i helpu pobl i fwynhau Sir Fynwy. Efallai y bydd gennych brofiad mewn:
- Ffermio neu reoli tir
- Cadwraeth natur
- Busnes gwledig
- Grwpiau lleiafrifol
- Hygyrchedd i’r anabl
- Twristiaeth
- Gweithgareddau hamdden gan gynnwys cerdded, gyrru coets, marchogaeth, seiclo a defnydd cerbyd modur ar gilffyrdd a ffyrdd sirol annosbarthedig