Diogelwch, Cyfrifoldebau a Chymorth i Dirfeddianwyr
Mae’r Tîm Mynediad Cefn Gwlad yn hybu defnydd cyfrifol gan y cyhoedd wrth weithredu eu hawliau ac mae’n gweithio lle bynnag bo’n bosib gyda thirfeddianwyr er mwyn sicrhau cydymffurfiad gyda chynnal y rhwydwaith a gweithredu gwelliannau.
Cafodd y dogfennau canlynol eu datblygu er mwyn rhoi cymorth i bawb sy’n cymryd rhan gyda llwybrau cyhoeddus. Canllaw Dodrefn Mynediad Cefn Gwlad.
Canllaw Bioamrywiaeth Mynediad Cefn Gwlad
Adroddiad Polisi, Protocol a Rheolaeth Weithredol Mynediad Cefn Gwlad
Mae ein map mynediad cefn gwlad rhyngweithiol yn dangos ble mae’r llwybrau’n mynd, fel bod rheolwyr tir ac eraill yn gallu helpu amddiffyn a chynnal llwybrau. Mae’r Cod Cefn Gwlad yn helpu pawb i barchu, i ddiogelu ac i fwynhau’r cefn gwlad. Bydd cynllunio eich ymweliad yn eich galluogi i fwynhau eich ymweliad.
Mae Ymwelwch â Sir Fynwy’n manylu’r teithiau cerdded, y reidiau a’r digwyddiadau sydd ar gael, yn ogystal â llety ac atyniadau eraill.