Gwirfoddolwyr Mynediad Cefn Gwlad
Caiff gwaith Mynediad Cefn Gwlad ei gefnogi gan wirfoddolwyr unigol, grwpiau lleol a Grwpiau “Cyfeillion …”, sy’n ymgymryd ag ystod eang o dasgau cefn gwlad ar lwybrau cyhoeddus a safleoedd cefn gwlad. Enghreifftiau o dasgau i wirfoddolwyr mae:- ymgymryd â digwyddiadau, dynodi a chyllido gwelliannau, plannu coed, clirio, tasgau cadwraeth, rheoli data, monitro, gosod arwyddion, gwaith syrfëwr, hyrwyddo a chynnal safleoedd a llwybrau cerdded.
Mae’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu Cymunedol yn rhoi cyngor a gwybodaeth i grwpiau cymunedol sydd eisiau helpu neu gynnal llwybrau cerdded a llwybrau mynediad arall yn eu hardal leol. Gallai’r rhain fod yn Gynghorau Cymuned, Grwpiau Croeso Cerddwyr, grwpiau cerdded lleol neu sefydliadau eraill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp gwirfoddolwyr mynediad cefn gwlad neu dymuno ymwneud â thasg benodol, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Tîm Mynediad Cefn Gwlad
drwy e-bost countryside@monmouthshire.gov.uk,
neu ysgrifennu at:
Mynediad Cefn Gwlad, BywydMynwy
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir
Y Rhadyr
Brynbuga NP16 1GA