Ynglŷn â Hawliau Tramwy
Mae pedwar math o hawl dramwy cyhoeddus.
Llwybrau Troed – ar gyfer cerdded, rhedeg, sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn trydan. Mae’r rhain wedi’u marcio gyda symbol o ddyn sy’n cerdded a/neu saeth felen
Llwybrau Ceffylau – ar gyfer cerdded, marchogaeth, beiciau, sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn trydan. Mae’r rhain wedi’u harwyddo gyda symbol o farchog ceffyl ac yn aml wedi’u marcio â saeth las
Cilffyrdd Cyfyngedig – ar gyfer unrhyw fath o gludiant heb sgwter a sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn â phwer. Mae’r rhain wedi’u marcio gyda symbol o geffyl a chert ac yn aml gyda chyfeirbwynt porffor.
Cilffyrdd sydd ar agor i bob traffig – ar gyfer unrhyw fath o gludiant, gan gynnwys ceir (ond cerddwyr, beicwyr a marchogion sy’n eu defnyddio’n bennaf)
Gallwch weld lle mae’r llwybrau hyn yn rhedeg a’r llwybrau sydd wedi’u hyrwyddo ar ein map.
I gael rhagor o wybodaeth ar gfyer mynediad cefn gwlad a hawliau tramwy, gweler y Cynllun Gwella Mynediad Cefn Gwlad