
Amgueddfa Trefynwy
Mae Amgueddfa Trefynwy yn parhau ar gau tra ein bod yn symud i’r Neuadd Sir. Mae Amgueddfeydd Y Fenni a Chas-gwent ar agor bob dydd 11-4 (ac eithrio dydd Mercher). Mae tiroedd Castell Y Fenni ar agor bob dydd 11-4.
Am fanylion yr hyn sydd yn cael ei gynnal dros hanner tymor, ewch i https://www.monlifeholidayactivities.co.uk/monlife-learning/
Ganwyd Horatio Nelson yn Norfolk, bu farw ar y môr a’i gladdu yn Eglwys Gadeiriol St. Paul’s – ond mae Trefynwy yn gartref i gasgliad anhygoel o ddeunyddiau Nelson. Dewch i ddysgu mwy am wreiddiau’r casgliad, ac am ei fywyd, ei ddiddordebau ynghyd â marwolaeth y Llyngesydd enwog hwn drwy arddangosfeydd o arfau, lluniau, ceramig, arian a gwydr, modelau o’r llongau a llythyron.
Mae hanes y dref farchnad hynafol hon yn Nyffryn Gwy yn cael ei arddangos yn yr un adeilad. Roedd Charles Stuart Rolls, cyd-sylfaenydd Rolls-Royce, wedi byw ger Trefynwy ac mae ei waith ym myd ceir, balŵns ac awyrennau i’w weld.
ï Rhaglen o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn (celf, crefft, hanes lleol, diddordeb cyffredinol)
ï Gweithdai a gweithgareddau
ï Cwisiau a thaflenni gwaith i blant
ï Mynediad i blant am ddim (os yn ymweld yng nghwmni oedolyn)
ï Cyfleusterau arbennig ar gyfer ymweliadau addysgol a grwpiau (mae grwpiau addysgol am ddim os yn trefnu ymlaen llaw)
ï Siop yn yr Amgueddfa
ï Meysydd Parcio Cyfagos
ï Yng nghanol y dref yn agos at y siopau, caffis a bwytai
Manylion agor
ï Dydd Llun – 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Mawrth– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Mercher– AR GAU
ï Dydd Iau– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Gwener– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Sadwrn– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Sul– 11.00 am – 4:00 pm
Prisiau
Mynediad am ddim (bydd angen talu ar gyfer digwyddiadau penodol)
Cyfeiriad
Priory Street,
Trefynwy,
Sir Fynwy,
NP25 3XA
Rhif ffôn: 01600 710630