
Amgueddfa Cas-gwent
Mae Amgueddfeydd Y Fenni a Chas-gwent ar agor bob dydd 11-4 (ac eithrio dydd Mercher). Mae tiroedd Castell Y Fenni ar agor bob dydd 11-4. Mae Amgueddfa Trefynwy yn parhau ar gau tra ein bod yn symud i’r Neuadd Sir.
Am fanylion yr hyn sydd yn cael ei gynnal dros hanner tymor, ewch i https://www.monlifeholidayactivities.co.uk/monlife-learning/
Mae Amgueddfa Cas-gwent yn datgelu gorffennol cyfoethog ac amrywiol y dref hynafol hon, a fu unwaith yn ganolfan bwysig fel porthladd a marchnad. Mae’r fasnach gwin, adeiladu llongau a physgota eog ymhlith nifer o ddiwydiannau Sir Fynwy sydd yn rhan o’r arddangosfa mewn awyrgylch atmosfferig. Mae lluniau, rhaglenni a phosteri yn dangos diddordebau’r bobl leol tra bod paentiadau a phrintiau o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn amlygu apêl barhaus Cas-gwent a Dyffryn Gwy i arlunwyr a thwristiaid fel ei gilydd. Mae’r Amgueddfa gyferbyn â Chastell Cas-gwent mewn tŷ moethus o’r ddeunawfed ganrif a adeiladwyd gan deulu cyfoethog o fasnachwyr o Gas-gwent.
ï Arddangosfeydd arbennig cyson
ï Gweithdai a gweithgareddau
ï Cwisiau a thaflenni gwaith i blant
ï Mynediad i blant am ddim (os yn ymweld yng nghwmni oedolyn)
ï Cyfleusterau arbennig ar gyfer ymweliadau addysgol a grwpiau (mae grwpiau addysgol am ddim os yn trefnu ymlaen llaw)
ï Siop yn yr Amgueddfa
ï Mynediad i’r llawr gwaelod a thoiledau i unigolion mewn cadeiriau olwyn
ï Meysydd Parcio cyfagos
ï Mae’r safle gyferbyn â Chastell Cas-gwent a Chanolfan Groeso Cas-gwent
Manylion agor
ï Dydd Llun – 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Mawrth– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Mercher– AR GAU
ï Dydd Iau– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Gwener– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Sadwrn– 11.00 am – 4:00 pm
ï Dydd Sul– 11.00 am – 4:00 pm
Prisiau
Mynediad am ddim (bydd angen talu ar gyfer digwyddiadau penodol)
Cyfeiriad
Amgueddfa Cas-gwent,
Heol y Bont,
Cas-gwent,
Sir Fynwy,
NP16 5EZ