Arddangosfeydd parhaol ac arddangosfeydd dros dro
Arddangosfeydd parhaol ac arddangosfeydd dros dro – is-dudalen
Mae Amgueddfa’r Fenni yn cynnal arddangosfeydd rheolaidd ar y cyd â’r pum oriel arddangos barhaol:
[Nodwch: Tudalennau’r arddangosfeydd y presennol, dyfodol a gorffennol – peidiwch â’u cynnwys – dylem ganolbwyntio ar yr arddangosfeydd a’r digwyddiadau cyfredol/sydd ar y gweill ledled y safle – h.y. tudalen mynegai. Bydd angen tudalen arnom i gysylltu â hi.]
Oriel y Gorthwr
Yn ‘Oriel y Gorthwr’ mae arddangosfeydd sy’n ymwneud â hanes yr ardal. Yn eu plith mae teclynnau cynhanesyddol, arfwisg Rufeinig, ratl baban o’r ail ganrif ar bymtheg, arteffactau yn ymwneud â phersonoliaethau Fictoraidd y Tad Ignatius ac Arglwyddes Llanofer a’r bergi enwog Whiskey.
Lloches Cyrch Awyr
Yn islawr yr Amgueddfa, mae gennym ail-gread o loches cyrch awyr yr Ail Ryfel Byd.
Siop y Sadler
Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y Fenni yn gartref i wyth o siopau sadler. Yn yr Amgueddfa, mae gennym arddangosfa o sut y byddai un nodweddiadol wedi edrych.
Y Gegin Gymreig
Mae’r Gegin Gymreig yn dyddio o 1960. Roedd yn un o’r arddangosiadau cynharaf ac mae’n dal mor boblogaidd ag erioed.
Mae yn null cegin ffermdy Fictoraidd ac yn ymgorffori lle tân, a achubwyd o ddymchweliadau Stryd y Tuduriaid. Diweddarwyd yr arddangosfa yn 2013 gan ddisgyblion o ysgol gynradd leol a helpodd i ailgynllunio’r gofod a dyfeisio amrywiaeth o weithgareddau ymarferol i chi roi cynnig arnynt.
Siop Groser Basil Jones
Ein harddangosfa fwyaf poblogaidd yw ‘Siop Basil Jones’. Yn 1994, caffaelodd yr Amgueddfa nifer fawr o stoc o groser lleol adnabyddus – Basil Jones.
Roedd hyn yn cynnwys pecynnu a oedd yn dyddio o mor gynnar â’r 1930au. Bu’n rhaid i’n cadwraethwyr dynnu rhai o’r stoc wreiddiol megis bisgedi, er mwyn sicrhau na wnaethon ni greu ‘problem plâu’! Yna cafodd y siop ei hail-greu o fewn yr Amgueddfa. Yn aml gall ein hymwelwyr gofio’r siop wreiddiol ac mae gennym ‘lyfr atgofion’ lle gallant gofnodi eu hatgofion.
Opening Times
Monday – 11.00 am – 4:00 pm
Tuesday – 11.00 am – 4:00 pm
Wednesday – CLOSED
Thursday – 11.00 am – 4:00 pm
Friday – 11.00 am – 4:00 pm
Saturday – 11.00 am – 4:00 pm
Sunday – 11.00 am – 4:00 pm
Opening times may vary. The
Museum is xxx on bank holidays.
Facilities
FREE ENTRY
Car parking
WiFI
Refreshments