Ymunwch gyda MonLife Active a Byddwch yn Eithriadol!

Ymunwch gyda MonLife Active heddiw a gallwch ennill oriawr clyfar Garmin Forerunner 55 GPS sydd werth £149*
Bydd pob aelod newydd sydd yn ymuno gyda MonLife Active fel rhan o Aelodaeth Ymroddedig neu Flynyddol, hyd at 3ydd Mehefin, yn cael cymryd rhan am ddim yn ein raffl. Am fwy o wybodaeth am ein haelodaeth, cliciwch yma.
Bydd aelodau newydd yn cael y cyfle i ennill oriawr clyfar ffantastig, sef Garmin Forerunner 55 GPS sydd werth £149*. Mae’r oriawr clyfar GPS yma yn hawdd i bobl, ar bob lefel o ran sgiliau, ei ddefnyddio er mwyn monitro eich perfformiad a cheisio cyflawni eu hamcanion ffitrwydd. Bydd yr ugain person nesaf sy’n cael eu tynnu o’r raffl yn derbyn bag nwyddau Technogym* er mwyn eu helpu i baratoi i fynd i’r gampfa.
Y buddion i chi fel aelod o MonLife Active?
- Mynediad at 4 canolfan hamdden ar draws Sir Fynwy
- Mynediad at gampfeydd sydd yn cynnwys ystod o gyfarpar Technogym
- Allwedd / Band Technogym / Band (yn Nghanolfan Hamdden Trefynwy a Chanolfan Hamdden Y Fenni yn unig)
- Cynllun ffitrwydd personol a sesiynau anwytho ar gyfer rhaglenni hyfforddi
- Mynediad at gannoedd o ddosbarthiadau Byw ac Ar Alw ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd MonLife a Technogym drwy’r Ap Mywellness – ewch ati i hyfforddi ble bynnag ydych.
- Integreiddio’r cyfarpar Technogym ac Ap MyWellness
- Sesiwn wythnosol Body Blitz 30 munud am ddim
- Dewis sylweddol o ddosbarthiadau ffitrwydd, MonLife a Les Mills, gyda mwy na 160 o bob wythnos
- Cofrestru ar gyfer dosbarthiadau ar-lein neu dros y ffôn, a hynny 7 diwrnod o flaen llaw
- Yn medru nofio heb unrhyw gyfyngiadau yn ystod amseroedd nofio cyhoeddus a chymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd yn y pwll
- Medru defnyddio’r sawnau a’r ystafelloedd stêm am ddim
- Stiwdios Ffitrwydd penodol
- Dim Ffi Ymuno
- Parcio Am Ddim a Wi-Fi ym mhob un o’n safleoedd
Fel aelod o MonLife Active, mae ein hyfforddwyr ffitrwydd yno i’ch helpu chi aros yn frwdfrydig, yn egnïol a’n iachus, nid oes ots ble ydych ar eich taith ffitrwydd.
Ymunwch gyda MonLife Active a byddwn yn eich helpu chi gyrraedd eich amcanion ffitrwydd a lles fel eich bod yn medru bod yn eithriadol.
Opsiynau Aelodaeth ar gyfer Cymryd Rhan yn Ein Raffl Am Ddim
Aelodaeth Debyd Uniongyrchol Misol Ymroddedig
Yn ymrwymo i aelodaeth am 6 mis a thalu drwy gyfrwng debyd uniongyrchol misol**.
- Oedolion – £34.50
- Pobl Hŷn – £25.90
Ymunwch ar-lein heddiw: CLICIWCH YMA
Mae’r aelodaeth hon angen 6 taliad debyd uniongyrchol pro-rata.
Aelodaeth Blynyddol
Manteisiwch ar aelodaeth am 12 mis am bris 10
mis pan yn prynu Aelodaeth Blynyddol.
- Plant a Phobl Ifanc: Blynyddol – £170 y flwyddyn; arbediad o £34^
- Oedolion: Blynyddol – £345 y flwyddyn; arbediad o £69^
- Pobl Hŷn: Blynyddol – £259 y flwyddyn; arbediad o £51.80^
- ‘Toning’ Blynyddol (Canolfan Hamdden Trefynwy yn unig) – £259 y flwyddyn; arbediad o £51.80^. Er mwyn dysgu mwy am ‘Toning’, cliciwch yma: https://www.monlife.co.uk/monactive/monmouth-leisure-centre/toning/
Ymunwch ar-lein heddiw: CLICIWCH YMA
*Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol ar gyfer cymryd rhan yn y raffl am
ddim.
** Mae’r aelodaeth hon angen 6 taliad debyd
uniongyrchol pro-rata.
^Mae’r
arbedion yma yn cael eu cymharu gyda’r Aelodaeth Ymrwymedig Misol dros gyfnod o
flwyddyn.
*Telerau ac Amodau
- Bydd unigolion ond yn medru cymryd rhan os ydynt yn prynu aelodaeth rhwng dydd Gwener 20fed Mai a’r 3ydd Mehefin 2022
- Mae’n rhaid i unigolion brynu un o’r aelodaeth ganlynol – Oedolion Ymrwymedig Debyd Unionyrchol, Pobl Hŷn Ymrwymedig Debyd Unionyrchol, Pobl Iau Blynyddol, Oedolion Blynyddol, Pobl Hŷn Blynyddol, ‘Toning’ Blynyddol
- Mae pob unigolyn ond yn medru cymryd rhan unwaith
- Bydd 1 enillydd yn derbyn oriawr clyfar Garmin Forerunner 55 GPS. Bydd 20 cwsmer yn ennill bag nwyddau Technogym. Bydd 5 ar gyfer pob canolfan hamdden
- Nid oes hawl trosglwyddo gwobrau a ni fyddwn yn cynnig arian parod yn hytrach na’r gwobrau.
- Bydd enillwyr yn cael eu dewis ar hap gan MonLife o blith y sawl sydd yn gymwys a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 6ed Mehefin ar y ffôn ac e-byst
- Bydd enillwyr y gwobrau yn caniatáu MonLife i roi cyhoeddusrwydd i enw’r enillwyr a lluniau ar gyfer y canlyniadau.
- Bydd ond modd casglu gwobrau ac ni fyddwn yn talu unrhyw gostau teithio.
- Os nad oes modd cysylltu gyda’r enillwyr o fewn 7 diwrnod ar ôl cael eich dewis, mae MonLife yn cadw’r hawl i ail-ddewis enillydd ar hap o blith y bobl eraill sy’n gymwys.
- Mae’r telerau ac amodau ar gyfer aelodaeth yn berthnasol ac ni fyddwn yn cynnig ad-daliadau ar unrhyw adeg.
- Mae MonLife yn cadw’r hawl i atal y gystadleuaeth ar unrhyw adeg.