Green Infrastructure - Monlife

Seilwaith Gwyrdd a Sir Fynwy

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Cyngor Sir Fynwy’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol 2022-2028, sydd â’r nod o symud Sir Fynwy yn ei blaen, gan weithio gyda’n gilydd ar gyfer sir decach, wyrddach, fwy llwyddiannus.

Mae amcanion y cynllun yn cynnwys gwneud Sir Fynwy yn “le gwyrdd” i weithio a byw, gyda llai o allyriadau carbon, a gwneud cyfraniad cadarnhaol at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.  Mae’r tudalennau hyn yn darparu mwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio i gyflawni’r nod hwn. 

Strategaeth ac Arweiniad
Strategaeth ac Arweiniad

Edrychwch ar ein cynlluniau strategol a'n dogfennau cyfarwyddyd ar gyfer cynllunio a rheoli SG.

Lleoliad Tirwedd
Lleoliad Tirwedd

Mae gan dirwedd Sir Fynwy sawl dynodiad i ddiogelu'r nodweddion hanesyddol ac esthetig unigryw.

Adnoddau a Hyfforddiant
Adnoddau a Hyfforddiant

Edrychwch ar ein holl adnoddau defnyddiol fel y gallwch ein helpu i gael effaith gadarnhaol.

Prosiectau SG a Natur
Prosiectau SG a Natur

Dysgwch fwy am yr holl brosiectau cysylltiedig â SG sy'n cael effaith gadarnhaol ar draws Sir Fynwy.

Grid Gwyrdd Gwent
Grid Gwyrdd Gwent

Partneriaeth ranbarthol yw GGG, gyda'r nod o wella a datblygu seilwaith gwyrdd ar draws Gwent.

Natur Wyllt
Natur Wyllt


Natur Wyllt yw ein dull enwog o reoli ein parciau a'n mannau agored.

Hinsawdd, Natur a Lles
Hinsawdd, Natur a Lles


Darganfyddwch fwy am yr effaith y gall newid yn yr hinsawdd ei chael ar ein lles cyffredinol.

Bioamrywiaeth yn Sir Fynwy
Bioamrywiaeth yn Sir Fynwy

Dysgwch fwy am gynefinoedd a rhywogaethau Sir Fynwy a'r hyn rydym yn ei wneud i'w diogelu.

Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy
Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy


Ymunwch â'r Bartneriaeth Natur Leol er mwyn helpu natur ar draws Sir Fynwy.


Beth yw Seilwaith Gwyrdd?

Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r holl goed, planhigion, mannau gwyrdd, glaswelltiroedd, systemau draenio trefol cynaliadwy, perllannau, gwrychoedd, coetiroedd, pyllau dŵr, afonydd a llynnoedd yw Seilwaith Gwyrdd (yr holl nodweddion gwyrdd a glas mewn tirwedd).  Gallant ddarparu manteision niferus i’r amgylchedd, cymdeithas a’r economi.

Swyddogaethau SG yw’r rolau y gall asedau eu chwarae os cânt eu cynllunio, eu dylunio a’u rheoli mewn ffordd sy’n sensitif i, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer, nodweddion naturiol a gwasanaethau ecosystem. Diffinnir gwasanaethau ecosystem fel y buddion a ddarperir gan Seilwaith Gwyrdd sy’n cyfrannu at wneud bywyd yn bosibl ac yn werth ei fyw. 

Lleoliad Tirwedd ac Ansawdd LleMae Seilwaith Gwyrdd yn gwella trefluniau, ansawdd y dirwedd ac yn atgyfnerthu cymeriad y dirwedd leol.   Mae SG yn cefnogi cadwraeth treftadaeth a mynegiant diwylliannol, ac yn gwneud lleoedd yn fwy diddorol i fyw ynddynt.  

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am gymeriad y dirwedd yn Sir Fynwy  
Darpariaeth a Chysylltedd CynefinMae’r Seilwaith Gwyrdd yn darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt ac yn annog cysylltedd rhwng safleoedd i hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.   

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am fioamrywiaeth yn Sir Fynwy 
Darpariaeth a Chysylltedd Mannau GwyrddMae Seilwaith Gwyrdd yn darparu mannau gwyrdd i drigolion eu defnyddio a llwybrau teithio nad ydynt yn gerbydau i leihau allyriadau carbon.  

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am fynediad cefn gwlad a hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Fynwy

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am lwybrau Teithio Llesol 
Defnydd Ynni CynaliadwyMae Seilwaith Gwyrdd yn darparu ac yn hyrwyddo defnydd cynaliadwy o ynni i leihau ein hôl troed carbon.  

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am yr Argyfwng Hinsawdd
Cynhyrchu Bwyd LleolGall Seilwaith Gwyrdd gynnwys cynhyrchu bwyd lleol gan gynnwys perllannau cymunedol sydd â manteision lles a pheillwyr.   Mae tyfu bwyd cymunedol yn cael ei ddarparu fel rhan o’r cynllun Mannau Natur Cymunedol.  
Gwanhau Llifogydd a Rheoli Adnoddau DŵrGellir cynllunio Seilwaith Gwyrdd i amsugno glawiad trwm a darparu storio dŵr wyneb ar adegau o lif brig.   

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Systemau Draenio Cynaliadwy 

This post is also available in: English