A ydych chi am wella eich ffitrwydd ond nid ydych yn sicr ble i ddechrau?
A ydych holl gyngor gwahanol am iechyd, maetheg a hyfforddi yn achosi penbleth?
A ydych wedi dechrau sawl raglen cadw’n heini ond wedi rhoi’r gorau iddi am i chi golli’r brwdfrydedd neu am nad oeddech yn gweld y canlyniadau yr oeddech yn dymuno?
Gyda MonLife Active, rydych yn medru bod yn anhygoel, ymunwch â’n Rhaglen Ffitrwydd i Ddynion Bod Yn Egnïol Gyda’n Gilydd dros 8 wythnos er mwyn dysgu a rhoi cynnig ar ystod eang o dechnegau a dulliau hyfforddi. Bydd hyn yn rhoi’r hyder i chi wella eich ffitrwydd a’ch llesiant a byw bywyd iachus
Gydag ond 10 lle ar gael mae’r Rhaglen Ffitrwydd i Ddynion yn grŵp cefnogol sydd yn cael ei arwain gan ein Hyfforddwr Ffitrwydd profiadol a fydd yn eich ysgogi chi i archwilio a phrofi ffitrwydd sydd yn addas i chi.
Byddwch yn dysgu ac yn profi ystod eang o dechnegau ffitrwydd, dulliau hyfforddi a chyngor ar faetheg a llesiant er mwyn eich helpu chu gyflawni eich amcanion ffitrwydd a llesiant.
Sesiynau i’w cynnal bob dydd Llun rhwng 7pm a 7.55pm. Rydym yn dechrau ar ddydd Llun 21ain Mawrth
Rhaglen 8 Wythnos
Wythnos 1
Cyflwyno pawb i’r grŵp, dod i’ch adnabod chi a’ch amcanion a sut ddefnyddio’r MonLife ar gyfer cadw’n ffit yn eich cartref neu’r gampfa
Wythnos 2
Ymarferion i’ch cryfhau a sut i ddefnyddio pwysau gwahanol – barbells, dumbbells, kettlebells a phwysau eich corff. Byddwn yn gweithio ar dechnegau gwahanol ar gyfer patrymau symud mawr a fydd yn eich helpu chi sicrhau’r canlyniadau a ddymunir.
Wythnos 3
Ymarferion hyblygrwydd a’r technegau gwahanol fel eich bod yn medru parhau i ymarfer yn eich cartref a’n sicrhau eich bod yn symud yn fwy yn ystod y dydd er mwyn gwella eich hyblygrwydd.
Wythnos 4
Hyfforddiant dygnwch gyda ffocws ar symudiadau ac ymarferion cadw’n heini fel cerdded, rhedeg, seiclo, rhwyfo a sgïo.
Wythnos 5
Hyblygrwydd i’ch helpu chi osgoi anafiadau drwy ddangos dulliau a symudiadau gwahanol ar sut i ystwytho ar ôl ymarfer ac ymlacio wedi diwrnod prysur a llawn straen.
Wythnos 6
Pŵer Ffrwydrol – beth yw hyn a sut i’w integreiddio i mewn i’ch rhaglen ffitrwydd.
Wythnos 7
Cyfansoddiad y corff a maetheg – byddwn yn trafod y dulliau hyfforddi gwahanol a’r ffactorau deiet a fydd yn effeithio’n bositif arnoch – tu mewn a thu allan.
Wythnos 8
Ffitrwydd ar gyfer y dyfodol – byddwch yn ystyried y cynnydd sydd wedi ei wneud, yr hyn yr ydych wedi ei gyflawni a sut ydych yn medru parhau â’ch taith ffitrwydd ar ddiwedd y rhaglen.
Ymunwch heddiw
Dim ond £18.95 am 8 wythnos.
Rydym yn dechrau ar 21ain Mawrth am 7.00 – 7.55pm yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent.
Brysiwch – gydag ond 10 lle ar gael, rydym yn disgwyl y bydd y llefydd yn gwerthu’n gyflym
Ffoniwch 01633 644800 a chofrestrwch heddiw.
Byddwch yn Eithriadol gyda MonLife Active